Mali Harries
Actores teledu a ffilm o Gymru yw Mali Rhys Harries (ganwyd 6 Gorffennaf 1976).[1] Mae hi wedi bod yn gweithio ym myd teledu ers 1999 ac mae wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu Cymraeg a Saesneg fel The Bill, The Indian Doctor a Caerdydd.
Mali Harries | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1976 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Priod | Matthew Gravelle |
Yn fwy diweddar, mae Harries wedi dod yn adnabyddus am ei gwaith gyda S4C, yn enwedig dramâu llwyddiannus fel Y Gwyll, Un Bore Mercher a’r sebon Pobol y Cwm.
Yn 2010, cyrhaeddodd Harries a Gravelle restr fer gwobrau BAFTA Cymru[2] am ei rhan fel Kate yn y gyfres deledu Caerdydd.
Rhwng 2013 a 2016 roedd Harries yn chwarae rhan DI Mared Rhys, un o'r prif rannau yng nghyfres dditectif Y Gwyll ar S4C (a'r fersiwn Saesneg Hinterland).[3]
Bywyd personol
golyguAr ôl iddi raddio o'r Old Vic ym Mryste, canolbwyntiodd ar weithio ym myd y theatr am nifer o flynyddoedd, a bu'n gweithio gyda'r Royal Shakespeare Company am gyfnod.
Mae Harries yn briod a'r actor Matthew Gravelle. Mae'r cwpl wedi chwarae eu priod/partner ar y sgrîn mewn sawl sioe deledu ac mae ganddynt ddau o blant gyda’i gilydd .[4]
Ffilmyddiaeth
golyguFfilm
golyguBlwyddyn | Ffilm | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2002 | Dirgelwch Yr Ogof | Lucille | |
2003 | Y Mabinogi | Cigfa | Llais yn unig |
2006 | Sixty Six | Mrs Shivers | |
2008 | Heavenly Father | Sheley | |
2010 | Leap Year | Air Lingus Rep 1 | |
2010 | Rhwyd | Eirlys |
Teledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1999 | Dalziel and Pascoe | Young Cissy Kohler | Pennod: Recalled to Life |
2000 | P.O.V. | Gloria | |
2000 | Midsomer Murders | Nurse O'Casey | Pennod: Blue Herrings |
2001 | The Bill | Wendy Pike | Pennod: Crush |
2002–2007 | Foyle's War | Jane Milner | |
2003 | The Inspector Lynley Mysteries | Nancy | Pennod: A Suitable Vengeance |
2003 | Final Demand | Corinne | |
2003 | Byron | Anna Rood/Fletcher | |
2003 | Holby City | Karen Edwards | Pennod: Accidents will Happen |
2004 | May 33rd | Sarah Sorensson | |
2004–2007 | Pentre Bach | Jini | Prif ran |
2005 | The Bill | Mandy Phelps | |
2005 | Doctor Who | Cathy | Pennod: Boom Town |
2006–2010 | Caerdydd | Kate Marshall | 5 cyfres |
2006 | Brief Encounters | Julie Owen | |
2006 | Coming Up | Shelley | Pennod: Heavenly Father |
2009 | Murderland | WPC Hart | 2 bennod |
2006, 2011, 2012 | Doctors | Sawl | |
2010–2013 | The Indian Doctor | Megan Evans | Prif ran |
2010 | Pen Talar | Siân Lewis | |
2009–2011 | Ar y Tracs | Sophie Thomas | |
2011 | Casualty | Elaine Armstrong | |
2011 | Baker Boys | Lucy | |
2012 | The Best of Men | Shirley Bowen | Ffilm deledu |
2012 | The Richard Burton Diaries | Adroddwr | |
2012 | Being Human | Lisa Monkton | |
2013-2016 | Great Welsh Writers | Adroddwr | |
2013-2016 | Y Gwyll | DI Mared Rhys | Prif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Hinterland. |
2015 | Critical | Nerys Merrick | Prif ran |
2015 | Lewis | Sarah Alderwood | Pennod: What Lies Tangled |
2016 | New Blood | MP Gwynn Hughes | |
2016-presennol | Y Ditectif | Cyflwynydd | Cyfres ddogfen S4C |
2017 | Un Bore Mercher | Bethan Price | Prif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Keeping Faith. |
2018-presennol | Pobol y Cwm | Jaclyn Parri | |
2024 | The Way | Dee Driscoll |
Dolenni allanol
golygu- Mali Harries ar wefan Internet Movie Database
- Mali Harries ar Twitter
- S4C Caerdydd Archifwyd 2011-10-03 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2018.
- ↑ Why Bafta Cymru 2010 is a family affair Western Mail. 21-05-2010. Adalwyd ar 28-09-2010
- ↑ Cymeriadau Y Gwyll Archifwyd 2016-03-11 yn y Peiriant Wayback, S4C; Adalwyd 2013-12-12
- ↑ "Wedding of the Year pair look back". The Western Mail. 9 April 2011.