[go: up one dir, main page]

Cytundeb Versailles

Cytundeb rhyngwladol rhwng y Cynghreiriad a'r Almaen orchyfygiedig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Cytundeb Versailles. Cafodd ei arwyddo yn Versailles, Ffrainc, ar ddiwedd Cynhadledd Heddwch Paris, ar 28 Mehefin yn y flwyddyn 1919.

Cytundeb Versailles
Enghraifft o'r canlynolcytundeb heddwch, cytundeb amlochrog Edit this on Wikidata
Dyddiad28 Mehefin 1919 Edit this on Wikidata
Rhan oLeague of Nations Treaty Series, Cynhadledd Heddwch Paris 1919 Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCadoediad 11 Tachwedd 1918 Edit this on Wikidata
LleoliadHall of Mirrors, Palas Versailles Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTreaty of Versailles/Part VIII, Treaty of Versailles/Part VII, Treaty of Versailles/Part IX, Treaty of Versailles/Part VI, Treaty of Versailles/Part V, Treaty of Versailles/Part IV, Treaty of Versailles/Part III, Treaty of Versailles/Part II, Treaty of Versailles/Part X, Treaty of Versailles/Part XI, Treaty of Versailles/Part XII, Treaty of Versailles/Part XIV, Treaty of Versailles/Part XV Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
The Signing of the Peace Treaty of Versailles

Yn ôl termau'r cytundeb roedd yr Almaen yn euog o achosi'r rhyfel a gorchmynwyd iddi dalu iawndal a chyfyngu nerth ei lluoedd arfog. Yn ogystal bu rhaid iddi adfer tiriogaethau Alsace a Lorraine i Ffrainc, ildio rhannau o ddwyrain yr Almaen (Prwsia) i Wlad Pwyl a derbyn meddiant milwrol y Cynghreiriad ar y Rheinland. Ar ben hynny oll gwnaethpwyd y mwyafrif o drefedigaethau'r Almaen - yn Affrica yn bennaf - yn diriogaethau mandad yng ngofal Cynghrair y Cenhedloedd.

Gwrthododd yr Unol Daleithiau arwyddo'r cytundeb tan 1921.

Un o ganlyniadau termau Cytundeb Versailles oedd y dirwasgiad mawr yn yr Almaen yn y 1920au a dechrau'r 1930au. Yn ogystal porthai teimladau cenedlaetholgar ac imperialistaidd ymhlith yr Almaenwyr. Arweiniai hyn yn y pen draw at dwf Natsïaeth a llywodraeth ffasgaidd Adolf Hitler.

Llofnodwyd Cytundeb Trianon gyda Hwngari yn 1920.

Dolenni allanol

golygu