[go: up one dir, main page]


Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Cambodia neu Cambodia. Arferai'r wlad gael ei galw'n Kampuchea ac mae ganddi boblogaeth o 14 miliwn o drigolion.[1] Mae'n ffinio â Gwlad Tai i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, Laos i'r gogledd-ddwyrain a Fietnam i'r dwyrain a'r de-ddwyrain. I'r de, daw wyneb yn wyneb â Gwlff Gwlad Tai. Dominyddir daearyddiaeth Cambodia gan yr Afon Mekong a'r Tonlé Sap ("y llyn dŵr ffres"), ffynhonnell bwysig o bysgod.

Cambodia
Gweriniaeth Democrataidd Fietnam
Cộng hòa Xã hội chủ nghĩa Việt Nam
ArwyddairTeyrnas Syfrdandod Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, brenhiniaeth gyfansoddiadol, teyrnas Edit this on Wikidata
PrifddinasPhnom Penh Edit this on Wikidata
Poblogaeth16,005,373 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd2 Medi 1945 (Datganiad o Annibyniaeth)
AnthemNokor Reach Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHun Manet Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00, Asia/Phnom_Penh Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Chmereg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-ddwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladCambodia Edit this on Wikidata
Arwynebedd181,035 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLaos, Gwlad Tai, Fietnam Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.5°N 105°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLlywodraeth Cambodia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenin Cambodia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethNorodom Sihamoni Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Cambodia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHun Manet Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadBwdhaeth, Islam, Cristnogaeth, eneidyddiaeth Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$26,961 million, $29,957 million Edit this on Wikidata
Arianriel Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.36 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.593 Edit this on Wikidata

Y Khmeriaid yw'r grŵp ethnig mwyaf a Bwdhaeth yw'r brif grefydd. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Phnom Penh. Cambodia yw'r dalaith olynol i'r Ymerodraeth Khmer Hindŵ a Bwdhaidd, a reolodd y mwyafrif o'r Penrhyn Indo-Tsieiniaidd rhwng y 11g a'r 14g.

Gan amlaf, disgrifir person o Gambodia fel "Cambodiad" neu "Khmer", er caiff yr ail derm ei ddefnyddio pan yn disgrifio Khmeriaid ethnig yn unig. Mae'r rhan fwyaf o Gambodiaid yn Fwdistiaid Theravada o dras Khmer, er bod gan y wlad niferoedd sylweddol o Fwslemiaid Cham, yn ogystal â Tsieiniaid, Fietnamiaid a llwythi bychan o'r mynyddoedd.

Prif ddiwydiannau Cambodia yw dillad, twristiaeth ac adeiladu. Yn 2007, daeth dros 4 miliwn o dramorwyr i Angkor Wat.[2] Yn 2005, daethpwyd o hyd o gyflenwadau o olew a nwy naturiol yn nyfroedd tiriogaethol Cambodia, a phan fydd yr echdyniad yn cychwyn yn 2011, gallai'r arian o'r olew effeithio'n sylweddol ar economi'r wlad.[3] Serch hynny, gallai rhan helaeth o unrhyw elw ddiweddu yn nwylo'r gwleidyddion cefnog os na fydd y sefyllfa'n cael ei fonitro'n ofalus.[4]

Daearyddiaeth

golygu

Mae gan Cambodia arwynebedd o 181,035 km sgwâr (69,898 milltir sgwâr), gan rannu ffin o 800 kilomedr (500 mi) gyda Gwlad Tai yn y gogledd a'r gorllewin, ffin o 541 kilomedr (336 mi) gyda Laos yn y gogledd-ddwyrain, a ffin o 1,228 kilomedr (763 mi) gydag Fietnam yn y dwyrain a'r de-ddwyrain. Mae ganddi 443 kilomedr (275 mi) o arfordir ar hyn Gwlff Gwlad Tai. Nodwedd ddaearyddol mwyaf unigryw yw'r paith llynnol, a ffurfiwyd gan lifogydd y Tonle Sap (Y Llyn Mawr), sy'n mesur tua 2,590 kilomedr sgwâr (1,000 milltir sgwâr) yn ystod y tymor sych ac sy'n ehangu i tua 24,605 kilomedr sgwâr (9,500 milltir sgwâr) yn ystod y tymor gwlyb. Mae'r paith poblog hwn, sydd wedi ei neilltuo ar gyfer tyfu reis gwlyb, yng nghefn gwlad Cambodia.

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad (tua 75%) ar uchder o 100 medr (330 troedfedd) neu'n îs uwchlaw lefel y môr, ag eithrio'r Mynyddoedd Cardamom (man uchaf 1,813 m / 5,948 troedfedd) a'u hestyniad yn y de-ddwyrain, y Mynyddoedd Dâmrei ("Mynyddoedd yr Eliffantod") (ystod uchder o 500–1,000 m neu 1,640–3,280 troedfedd), yn ogystal â tharenni serth y Mynyddoedd Dângrêk Mountains (uchder cyfartalog 500 m / 1,640 troedfedd) ar hyd y ffin gydag ardal Isan Gwlad Tai. Man uchaf Cambodia ydy Phnom Aoral, ger Pursat yng nghanol y wlad, sy'n 1,813 medr (5,948 troedfedd).

 
Byddin Khmer yn mynd i frwydro yn erbyn y Cham.

Amcangyfrifir fod y dystiolaeth gynharaf o wareiddiad datblygedig yn y Cambodia fodern yn dod ar ffurf cloddweithiau crwn artiffisial o'r mileniwn gyntaf CC.[5] Yn ystod y 3edd, 4edd a'r 5g, unodd y taleithiau Indianeiddiedig Funan a Chenla i greu'r hyn a elwir yn Cambodia a de-orllewin Fietnam. Tybir gan y mwyafrif o ysgolheigion fod y taleithiau hyn yn rhai Khmer.[6]

Brenhiniaeth gyfansoddiadol ers 1947 yw Cambodia.

Gwleidyddiaeth

golygu

Ym mis Medi 2013 penderfynodd pwyllgor etholiad cyffredinol i roi buddugoliaeth i Blaid Bobl Cambodiaidd er honiadau o dwyll etholiadol.[7]

Diwylliant

golygu

Economi

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "General Population Census of Cambodia 2008 - Provisional population totals" (PDF). National Institute of Statistics, Ministry of Planning. Medi 3, 2008. Adalwyd ar 22-06-2009.
  2. San Miguel eyes projects in Laos, Cambodia, Myanmar Archifwyd 2014-10-19 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 17 Gorffennaf 2009
  3. Cambodia hopes to start oil production in 2009, Ek Madra PHNOM PENH, (Reuters). 19-01-2007. Adalwyd ar 17-06-2009
  4. Cambodia's oil and mineral wealth sold to corrupt elites: watchdog. Adalwyd ar 17-06-2009
  5. Gerd Albrecht: Circular Earthwork Krek 52/62: Recent Research of the Prehistory of Cambodia. Adalwyd 17-07-2009
  6. Country Studies Handbook; daw'r wybodaeth o Adran Fyddinol yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 25-07-2009
  7. (Saesneg) "Cambodia's ruling CPP party confirmed election winner". BBC News. Medi 8, 2013. Adalwyd ar 12-09-2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Cambodia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato