Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd | |
---|---|
Whitchurch High School | |
Arwyddair | Album Mon Asterium |
Ystyr yr arwyddair | Learning For Life Dysgu Gydol Oes |
Sefydlwyd | 1968, 1937 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Mr Mark Powell |
Lleoliad | Heol Penlline, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, Cymru, CF14 2XJ |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Staff | 240 |
Disgyblion | 2416 (2021) |
Rhyw | Cyd-addysgol[1] |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Du a glas |
Gwefan | http://www.whitchurchhs.cymru |
Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal yr Eglwys Newydd, Caerdydd ydy Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Saesneg: Whitchurch High School). Caiff ei redeg gan awdurdod addysg lleol Cardydd, ond mae wedi gwneud cais i'r Cynulliad i dderbyn statws ysgol sylfaenol. Y prifathro presennol ydy Mr Huw Jones-Williams.[2]
Strwythur yr ysgol
[golygu | golygu cod]Mae'r ysgol wedi ei rannu ar ddau ddau safle, y safle isaf ar Glan-y-Nant Terrace sy'n cael ei fynychu gan plant 11-13 oed (blynyddoedd 7 i 9), a phlant 14–18 oed (blynyddoedd 10 i 11 a'r chweched ddosbarth) yn mynychu'r ysgol uwch ar Penlline Road.
Mae'n gwasanaethu ardal eang sy'n cynnwys Gabalfa, Llwyn Fedw, Coryton, Ystum Taf, Rhiwbeina a'r Eglwys Newydd. Roedd 2283 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2009, gyda 486 yn y chweched ddosbarth. Daeth 94% o gartrefi lle roedd Saesneg yn iaith gyntaf, ni ddaeth dim o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn iaith gyntaf ac ni allai unrhyw o'r disgyblion siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.[1]
Datganiad cenhadaeth yr ysgol ydy "To be a caring, well ordered and successful community in which all individuals who come to learn and work here are able to develop their maximum potential”.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Bu dwy safle'r ysgol yn ysgolion arwahan ar un adeg, sef Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd ar Penlline Road ac Ysgol Uwchradd Sirol yr Eglwys Newydd ar Glan-y-Nant Terrace. Unwyd y ddwy ysgol ym 1970, pan ailstrwythrwyd addysg yn yr ardal gan yr awdurdod addysg lleol ar y pryd, sef AALl De Morgannwg.
Cyn-ddisgyblion o nôd
[golygu | golygu cod]- Gareth Bale - chwaraewr pêl-droed
- Maggie Jones, Barwnes Jones o'r Eglwys Newydd - gwleidydd
- Rhys Maengwyn Jones (1941-2001) archeolegydd ac anthropolegydd a oedd yn arbenigo yng nghyn hanes Brodorion Awstralia
- Rhodri Morgan (1939-2017), Prif Weinidog Cymru
- Geraint Thomas - seiclwr, enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd
- Sam Warburton - chwaraewr rygbi
Cyfleusterau
[golygu | golygu cod]- Neuadd chwaraeon ar safle isaf yr ysgolschool site, a agorwyd gan y Tywysog Andrew
- Neuadd chwaraeon a chyfleusterau cadw'n heini, ystafelloedd newid a dosbarthiadau ar safle uchaf yr ysgol
- 10 maes pêl-dred pump bob ochr gyda goleuadau dilyw, yn ogystal â phum maes pêl-dred pump bob ochr a pahrcio ar safle isaf yr ysgol sy'n cael ei redeg gan gwmni Powerleague, sydd hefyd ar gael ar gyfer defnydd y gymuned ar ôl oriau ysgol
- Maes astroturf gyda goleuadau dilyw ar safle isaf yr ysgol sy'n cael ei ddenyddio'n bennaf ar gyfer hoci a phêl-droed
- Meysydd chwarae eang ar y ddwy safle sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gemau rygbi rhwng ysgolion
- Campfa draddodiadol gyda offer dringo, rhaffau, offer gymnasteg a matiau glanio ar y ddwy safle.
- Ysgubordy Iseldireg, cyn-gampfa a fu ar chwal sydd wedi cael i ailddatblygu'n neuadd ar gyfer cynnal gwasanaethau, arddangosfeydd celf a chyngerddau blynyddol Coffa Matthew Pasley a Richard Fice
- Bloc gerddoriaeth pwrpasol ar y safle isaf
- Stiwdio ddrama ar y safle isaf
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Report: Whitchurch High School Inspection: 2 March 2009. Estyn (7 Mai 2009).
- ↑ School Details: Llanrumney High School. Cyngor Caerdydd.