Ynys Yos Sudarso
Gwedd
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Yos Sudarso |
Poblogaeth | 11,000 |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Papua |
Lleoliad | Môr Arafura |
Sir | Merauke, Nabire |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 11,742 km² |
Uwch y môr | 4 metr |
Gerllaw | Môr Arafura |
Cyfesurynnau | 7.895831°S 138.364167°E |
Hyd | 180 cilometr |
Ynys yn perthyn i Indonesia yw Ynys Yos Sudarso (Indoneseg: Pulau Yos Sudarso). Saif ger arfordir de-orllewinol ynys Gini Newydd, ac mae'n rhan o dalaith Papua. Yr hen enw arni oedd Ynys Frederik Hendrik; fe'i hail-enwyd ar ôl swyddog yn llynges Indonesia.
Mae'r ynys tua 180 km o hyd a 100 km o led, gydag arwynebedd o 11,600 km². Gorchuddir llawer o'r ynys gan goedwig drofannol, a cheir rhai o goedwigoedd Mangrof mwyaf y byd o gwmpas ei glannau.