Y Ferch o Ipanema
Cân bossa nova adnabyddus iawn a gafodd lwyddiant rhyngwladol yng nghanol y 1960au yw "Garota de Ipanema" ("Y Ferch o Ipanema"). Enillodd Wobr Grammy am Record y Flwyddyn ym 1965. Fe'i hysgrifennwyd ym 1962: y gerddoriaeth gan Antônio Carlos Jobim a'r geiriau Portiwgaleg gan Vinicius de Moraes; ysgrifennwyd y geiriau Saesneg gan Norman Gimbel yn ddiweddarach.[1]
Enw'r ferch a ysbrydolodd y gân yw Helô Pinheiro.[2]
Gwnaed y recordiad masnachol cyntaf ym 1962, gan Pery Ribeiro. Daeth y fersiwn a berfformiwyd gan Astrud Gilberto, ynghyd â João Gilberto a Stan Getz, o'r albwm Getz/Gilberto (1964), yn llwyddiant rhyngwladol, gan gyrraedd rhif 5 yn siart yr Unol Daleithiau a rhif 29 yn y Deyrnas Unedig. Mae nifer fawr o recordiadau o'r gân wedi'u defnyddio mewn amryw o ffilmiau, weithiau fel enghraifft ystrydebol o gerddoriaeth lifft, er enghraifft yn agos at ddiwedd y ffilm The Blues Brothers). Yn 2004, cafodd ei dewis gan Lyfrgell y Gyngres i fod yn un o hanner cant o recordiadau o'r flwyddyn honno i'w chynnwys ar 'Y Gofrestr o Recordiadau Cenedlaethol.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Girl From Ipanema. OldieLyrics.
- ↑ Helô Pinheiro foi a musa inspiradora da música 'Garota de Ipanema', composta por Tom Jobim e Vinícius de Moraes em 1962.... purepeople.com.br.
- ↑ The National Recording Registry 2004. Llyfrgell y Gyngres.