Trychineb awyr Llandŵ
Enghraifft o'r canlynol | damwain awyrennu |
---|---|
Dyddiad | 12 Mawrth 1950 |
Lladdwyd | 80 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Damwain awyren yn Llandŵ, Bro Morgannwg ym 1950 oedd Trychineb awyr Llandŵ. Ar y pryd, dyma'r ddamwain awyren waethaf yn y byd gydag 80 o'r teithwyr yn cael eu lladd[1]. Roedd yr awyren Avro Tudor V wedi ei llogi gan gefnogwyr rygbi i hedfan i Iwerddon ar gyfer gêm Pencampwriaeth y Pum Gwlad rhwng Iwerddon a Chymru yn Belffast, ac achoswyd y ddamwain wrth i'r injan ballu ar y ffordd yn ôl i Gymru.
Cwrs y digwyddiadau
[golygu | golygu cod]Ar 12 Mawrth 1950, dechreuodd yr awyren Avro 689 Tudor V, Star Girl, oedd yn berchen i gwmni Airflight Limited ac yn hedfan o dan yr enw "Fairflight",[2] o Faes Awyr Dulyn ar daith i Faes Awyr yr Yr Awyrlu Brenhinol yn Llandŵ. Roedd 78 o deithwyr a 5 o griw ar yr awyren oedd wedi ei llogi gan gefnogwyr tîm rygbi Cymru ar gyfer gêm ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn erbyn Iwerddon yn Belffast.
Dywedodd llygad dyst wrth ohebwyr fod yr awyren yn teithio mor isel fel ei fod yn credu y byddai'n cael ei daro ganddi. Plymiodd yr awyren i'r llawr gyda'r adain dde'n taro'r llawr yn gyntaf cyn i'r trwyn a'r adain chwith daro'r llawr. Llwyddodd tri o'r teithwyr i oroesi'r ddamwain, gan gynnwys Handel Rogers a aeth ymlaen i fod yn llywydd Undeb Rygbi Cymru.[3].
Cofeb
[golygu | golygu cod]Ymysg y rhai fu farw oedd tri aelod o Glwb Rygbi Abercarn a chwech aelod o Glwb Rygbi Llanharan. Mae'r ddau glwb yn cofio'r trychineb ar eu bathodynau[4][5]. Yn 2010, dadorchuddiwyd cofeb ym mhentref Sigginstone i gofio'r rhai fu farw[3].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur Lynch (2008) tud. 816 ISBN 978-0-7083-1953-6
- ↑ "The Llandow accident" (PDF). Flight International LVII (2151): 354. 1950-03-16. http://www.flightglobal.com/pdfarchive/view/1950/1950%20-%200536.html.
- ↑ 3.0 3.1 "Cofio 60 mlynedd ers trychineb awyr ym Mro Morgannwg". BBC Newyddion. 2010-03-12.
- ↑ "Abercarn RFC: Our History". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Llanharan RFC: History". Unknown parameter
|published=
ignored (help)