Thomas Bevan
Thomas Bevan | |
---|---|
Ganwyd | c. 1796 Neuaddlwyd |
Bu farw | 31 Ionawr 1819 Toamasina |
Man preswyl | Madagasgar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cenhadwr |
Priod | Mary Bevan |
Cenhadwr o Gymru oedd Thomas Bevan (1796? – 31 Ionawr 1819) ac ochr yn ochr â'i wraig Mary a David Jones, dyma'r cenhadon Cristnogol cyntaf i gael eu hanfon gan Gymdeithas Genhadol Llundain i Fadagasgar.[1][2]
Bywyd a gwaith
[golygu | golygu cod]Ganwyd Bevan yn Neuaddlwyd, Ceredigion tua'r flwyddyn 1796. Cafodd ei fagu ar aelwyd Gristnogol a phan yn 8 oed roedd yn ddarllenwr brwd o'r Beibl. Cafodd droedigaeth ger fferm Nantgwynfynydd pan yn fachgen ifanc ac ar 19 Tachwedd 1810, derbyniwyd ef yn aelod yng Nghapel Neuaddlwyd. Yno, fe'i anogwyd gan y Gweinidog Thomas Phillips (1772-1842) i ddechrau pregethu. Bu iddo fynychu Ysgol Neuaddlwyd, neu Academi Neuaddlwyd, ysgol a sefydlwyd gan Phillips ym Mhen-y-banc. Yna aeth Bevan ymlaen i astudio yn y coleg yn y Drenewydd cyn ymuno â Jones i hyfforddi i fod yn genhadwr yn Gosport.
Cynigiodd Bevan a Jones eu hunain fel cenhadon a bu iddynt gael eu dewis i fynd i genhadu ar ynys Madagasgar gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Ordeiniwyd Bevan yn Neuaddlwyd ar 20-1 Awst 1817, a phriododd â Mary Bevan (née Jacob), Pen-yr-allt Wen tua'r un cyfnod.
Hwyliodd Bevan a Jones, gyda'u gwragedd, Mary a Louisa am Fadagasgar ar 9 Chwefror gan gyrraedd Mauritius ar 3 Gorffennaf 1918. Bum wythnos yn ddiweddarach bu iddynt hwylio eto a glanio yn Tamatave, Madagasgar ar 18 Awst 1818. Cawsant dderbyniad croesawgar gan Fisatra, brenin Tamatave. Sefydlodd Bevan a Jones ysgol yn Tamatave, a chofrestrwyd tua 10 o blant yn nyddiau cynnar yr ysgol honno. Dychwelodd Bevan i Mauritius i gasglu ei deulu gan ddychwelyd i Fadagasgar ar 6 Ionawr 1819, ond yn fuan ar ôl dychwelyd, cymerwyd y teulu oll yn sâl iawn. Bu farw plentyn Bevan ar 20 Ionawr, bu yntau farw ar 30 Ionawr a bu ei wraig farw ar 3 Chwefror 1819. Fe'u claddwyd oll ym mynwent Tamatave.
Caiff Thomas Bevan ei gofio hyd heddiw fel un o'r cenhadon a ddaeth â Christnogaeth i ynys Fadagasgar.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Welsh Biography Online: Thomas Bevan
- ↑ Gerald H. Anderson, Biographical Dictionary of Christian Missions, Wm. B. Eerdmans Publishing, 1999. p.336