Rheilffordd Lerpwl a Manceinion
Y daith gyntaf ar Reilffordd Lerpwl a Manceinion, paentiad (1830) gan A.B. Clayton | |
Enghraifft o'r canlynol | cwmni rheilffordd, llinell rheilffordd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1823 |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Rhagflaenydd | Bolton and Leigh Railway |
Olynydd | Grand Junction Railway |
Pencadlys | Lerpwl |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Swydd Gaerhirfryn |
Hyd | 50 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y rheilffordd gyntaf yn y byd i weithredu rhwng dwy ddinas oedd Rheilffordd Lerpwl a Manceinion, sef Lerpwl a Manceinion yng ngogledd-orllewin Lloegr. Roedd y rheilffordd yn galluogi cludo deunyddiau crai, nwyddau gorffenedig, a theithwyr yn gyflym rhwng porthladd Lerpwl a melinau cotwm a ffatrïoedd Manceinion a'r trefi cyfagos.
Rheilffordd Lerpwl a Manceinion oedd y rheilffordd gyntaf i ddibynnu'n gyfan gwbl ar locomotifau stêm, heb unrhyw gerbydau yn cael eu tynnu gan geffylau; y cyntaf i gael traciau dwbl ar ei hyd; y cyntaf i gael system gynhwysfawr o signalau; y cyntaf i weithredu amserlen; a'r cyntaf i gludo'r post. Dylanwadodd ar ddatblygiad rheilffyrdd ledled Prydain yn y 1830au. Ym 1845 amsugnwyd y rheilffordd gan ei phrif bartner busnes, Rheilffordd Grand Junction, a unodd yn ei dro y flwyddyn ganlynol â dau gwmni arall i ffurfio Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (London and North Western).
Adeiladu'r lein
[golygu | golygu cod]Dechreuwyd y gwaith yn 1826. Roedd angen i beirianwyr y prosiect oresgyn sawl her newydd. Yn Lerpwl adeiladwyd Twnnel Wapping, 1.25 milltir (2 km) o hyd – y twnnel cyntaf a adeiladwyd erioed o dan ddinas. Ar ôl y twnnel roedd trychfa 2 filltir (3 km) o hyd, 70 troedfedd (21 m) o ddyfnder, trwy graig yn Olive Mount, ac wedyn traphont 712 troedfedd (217 m) o hyd dros ddyffryn Sankey Brook. Ar ben arall y lein, ar gyrion Manceinion roedd Chat Moss, ardal beryglus o fawnogydd dwfn oedd yn amhosibl i'w draenio. Roedd angen cyfanswm o 64 o bontydd a thraphontydd ar y rheilffordd.
Agor y lein
[golygu | golygu cod]Agorwyd y lein ar 15 Medi 1830. Roedd y digwyddiad yn achlysur cymdeithasol, gyda llawer o ffigurau cyhoeddus amlwg yn bresennol, gan gynnwys Dug Wellington, y Prif Weinidog. Roedd y diwrnod yn llawn digwyddiadau: lluchiodd tyrfaoedd lysiau at drên y dug; roedd yna nifer o fethiannau technegol; taflwyd trên oddi ar y cledrai a tharodd trên arall ef; mewn digwyddiad arall lladdwyd William Huskisson, yr Aelod Seneddol dros Lerpwl gan y locomotif Rocket.
Er gwaethaf ei ddiffygion tynnodd y digwyddiad sylw'r byd at y posibilrwydd o gludo pobl a nwyddau ar draws pellteroedd hir yn rhad ac yn gyflym. Bu'r rheilffordd yn llwyddiant ysgubol, a buan iawn y lluniwyd cynlluniau i'w chysylltu â phrif ddinasoedd eraill Lloegr. O fewn deng mlynedd roedd 1,775 milltir (2,857 km) o reilffordd ym Mhrydain.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Booth, Henry, An Account of the Liverpool and Manchester Railway (Lerpwl, 1830)
- Carlson, Robert, The Liverpool and Manchester Railway Project 1821–1831 (Newton Abbot: David and Charles, 1969)
- Thomas, R. H. G., The Liverpool & Manchester Railway (Llundain: Batsford, 1980)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "First in the World: The Making of the Liverpool and Manchester Railway", Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant, Manceinion
- "The opening of the Liverpool and Manchester Railway", National Museums Lerpwl
- "Liverpool and Manchester Railway", Grace's Guide To British Industrial History