[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Rhyfel Cartref Cyntaf Iemen

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel Cartref Cyntaf Iemen
Enghraifft o'r canlynolgwrthdaro Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Gorffennaf 1994 Edit this on Wikidata
Rhan oEffeithiau'r Rhyfel oer Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Mai 1994 Edit this on Wikidata
Daeth i ben7 Gorffennaf 1994 Edit this on Wikidata
LleoliadIemen Edit this on Wikidata

Rhyfel cartref rhwng Gweriniaeth Arabaidd Iemen (Gogledd Iemen) a'r Weriniaeth Ddemocrataidd Iemen (De Iemen) a barodd am ddeufis ym 1994 oedd Rhyfel Cartref Cyntaf Iemen. Brwydrodd lluoedd y Weriniaeth Ddemocrataidd dros ddadwneud uno'r ddwy Iemen ac adfer gweriniaeth sosialaidd yn y de. Enillwyd y rhyfel gan luoedd y gogledd a gyrrwyd nifer o arweinwyr y de yn alltud.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Unwyd Gweriniaeth Arabaidd Iemen (Gogledd Iemen) a Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Iemen (De Iemen) ym 1990 i ffurfio Gweriniaeth Iemen. Er gwaethaf ymdrechion i gymodi'r ddwy gyn-weriniaeth a sefydlu llywodraeth yn Sana'a a chyfansoddiad unedig, bu tensiynau rhwng y gogledd a'r de o hyd. Ffoes yr Is-arlywydd Ali Salim al-Beidh i Aden, cyn-brifddinas y de, yn Awst 1993 yn sgil ymgecru yn y llywodraeth glymblaid. Dirywiodd diogelwch mewnwladol wrth i ddynion arfog ymgynghreirio â gwahanol wleidyddion, a manteisiodd arweinwyr llwythol ar y sefyllfa gan wrthsefyll awdurdod Sana'a. Cyhuddwyd y llywodraeth ganolog, dan y Prif Weinidog Haydar Abu Bakr al-Attas, o lygredigaeth, ac erbyn 1994 roedd y wlad ar fin rhyfel.

Y brwydro

[golygu | golygu cod]

Digwyddodd y rhan helaeth o'r brwydro yn y rhyfel cartref yn neheudir Iemen, ac eithrio cyrchoedd awyr yn erbyn dinasoedd yn y gogledd. Derbyniodd y Weriniaeth Ddemocrataidd gymorth ariannol a chyfarpar milwrol oddi ar sawl gwlad ArabaiddSawdi Arabia, Oman, Libanus, Irac, Libia, Coweit, Bahrain, a'r Emiradau Arabaidd Unedig – yn ogystal â llywodraethau sosialaidd Ciwba, Gogledd Corea, a Tsieina. Cefnogwyd llywodraeth Sana'a gan Wlad Iorddonen, yr Aifft, Qatar, Unol Daleithiau America, Iran, India, a Swdan.

Yn Ebrill 1994, saethwyd pum taflegryn SCUD gan luoedd y de at ddinas Sana'a, gan achosi rhywfaint o ddifrod.[1] Dyma oedd yr eildro i luoedd anwladwriaethol ddefnyddio taflegrau balistig â phennau confensiynol, wedi i wrthryfelwyr yn Affganistan saethu taflegrau SCUD at Kabul yn Ionawr 1994.[2] Dechreuodd grwpiau arfog ymladd yn erbyn ei gilydd yn nechrau 1994. Sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd Iemen yn ffurfiol ar 21 Mai 1994, ond na chafodd ei chydnabod gan y gymuned ryngwladol. Ymunodd Ali Nasir Muhammad, cyn-Brif Weinidog De Iemen, a'i gefnogwyr â lluoedd y gogledd, a gyrrwyd y gwrthryfelwyr ar ffo. Cipiwyd Aden ar 7 Gorffennaf, a daeth y brwydro i ben.

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]

Yn sgil buddugoliaeth y gogledd, ffoes miloedd o wrthryfelwyr y de o Iemen, nifer ohonynt i Sawdi Arabia. Cyhoeddodd yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh y byddai'n rhoi amnest i bob un gwrthryfelwr ond am 16 o'r arweinwyr, a dychwelodd y mwyafrif ohonynt i Iemen felly. O'r diwedd, rhoddwyd amnest anffurfiol hefyd i'r 16 o arweinwyr, ond arhosodd y mwyafrif ohonynt yn alltud.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Brian Whitaker, "Five Scuds fired at Yemeni capital as war worsens", The Guardian (7 Ebrill 1994). Adalwyd ar 25 Medi 2020.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Yemen Civil War (1990-1994)", GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 25 Medi 2020.