Reykjavík Fawr
Math | rhanbarthau Gwlad yr Iâ |
---|---|
Prifddinas | Reykjavík |
Poblogaeth | 233,034 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Iâ |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 1,062.2 km² |
Yn ffinio gyda | Rhanbarth y Gorllewin, Suðurland, Reykjanesskagi |
Cyfesurynnau | 64.2°N 21.7°W |
IS-1 | |
Reykjavík Fawr neu Metropol Reykjavik (Islandeg: Höfuðborgarsvæðið, ystyr "Rhanbarth y Brifddinas") yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer y brifddinas, Reykjavik a'r chwech bwrdeistref sydd o'i chylch.[1][2] Dyma'r rhanbarth mwyaf trefol ar yr ynys Gwlad yr Iâ.[3]
Mae gan bob bwrdeistref ei chyngor etholedig ei hun. Poblogaeth Metropol Reykjavik yw 216,940 sef, dros 60% o boblogaeth Gwlad yr Iâ a hynny mewn ardal sydd ond ychydig dros 1% o diriogaeth y wlad. Amcangyfrifir maint Reykjavík Fawr gan yr ardal sy'n rhan o diriogaeth y bwrdeistrefi gan gynnwys darnau mawr o dir gwag, ac nid yr ardal craidd drefol ei hun sydd hyd yn oed yn llai.[4] Mae'r bwrdeistrefi'n cyd-weithio'n dda, er enghraifft, ar bolisi casglu sbwriel, trafnidiaeth gyhoeddus a brigâd dân cyfun.
Poblogaeth a Maint
[golygu | golygu cod]O'r saith bwrdeistref sy'n creu Metropol Reykjavík, Reykjavík yw'r fwyaf o bell ffordd gyda phoblogaeth o 122,460; Kjósarhreppur yw'r lleiaf poblog gyda dim ond 217 preswylydd, ond sydd â'r tiriogaeth fwyaf: 287.7 km2 (111.1 mi sgw). Seltjarnarnes yw'r bwrdeistref lleiaf o ran tirwedd 2.3 km2 (0.89 mi sgw).
Bwrdeistrefi | Poblogaeth[5] | Maint (km2)[6] | Dwysedd (Pobl/km2) |
---|---|---|---|
Reykjavík | 122,460 | 277.1 | 442 |
Kópavogur | 34,140 | 83.7 | 408 |
Hafnarfjörður | 28,189 | 143.3 | 197 |
Garðabær | 14,717 | 74.4 | 198 |
Mosfellsbær | 9,481 | 193.7 | 49 |
Seltjarnarnes | 4,415 | 2.3 | 1,920 |
Kjósarhreppur | 217 | 287.7 | 0.75 |
Cyfanswm | 213,619 | 1,062.2 | 201 |
Blwyddyn | Poblogaeth | Fel canran o boblogaeth Gwlad yr Iâ population islandaise |
1920 | 21 441 | 22,70 % |
1930 | 33 854 | 31,16 % |
1940 | 43 841 | 36,06 % |
1950 | 65 080 | 45,10 % |
1960 | 89 493 | 49,93 % |
1970 | 109 238 | 53,40 % |
1980 | 121 698 | 52,65 % |
1990 | 145 980 | 56,65 % |
2000 | 175 000 | 61,44 % |
2011 | 202 341 | 63,32 % |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Association of municipalities in the Capital area English version Archifwyd 2021-10-07 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 2010
- ↑ Sigurður Guðmundsson. „Hvernig eru hugtökin dreifbýli og landsbyggð skilgreind hér á landi?“ The Icelandic Web of Science Archifwyd 2012-03-06 yn y Peiriant Wayback. 18.8.2000. Adalwyd Mehefin 2010 (In Icelandic)
- ↑ Statistics Iceland. Population by municipalities Archifwyd 2012-04-17 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd Mehefin 2010
- ↑ Emilía Dagný Sveinbjörnsdóttir. „Hvað er Stór-Reykjavíkur svæðið stórt sem hlutfall af öllu landinu?“. The Icelandic Web of Science Archifwyd 2012-03-06 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd Mawrth 2002.
- ↑ Statistics Iceland. Population by municipalities Archifwyd 2012-04-17 yn y Peiriant Wayback. Retrieved on 17. March 2012
- ↑ National Land Survey of Iceland. Sveitarfélagaskjárinn. Adalwyd Mehefin 2010 (Mewn iseldireg)