Race Horses
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Recordiau Peski |
Dod i'r brig | 2013 |
Dod i ben | Ionawr 2013 |
- Am yr orsaf radio, gweler Radio Luxembourg.
Grŵp pop seicadelig a ffurfiwyd yn Aberystwyth yn 2005 yw Race Horses, adnabyddwyd fel Radio Luxembourg gynt. Diolch i gigio a recordio cyson mae'r grŵp yma wedi profi llwyddiant mawr mewn amser byr iawn. Prif ganwr a chyfansoddwr y band yw Meilyr Jones (gynt o'r band Mozz) - sydd hefyd yn chwarae'r gitâr fas. Mae Dylan "Huggies" Hughes yn chwarae'r synth. "Bass Drum" Ben Herrick sy'n chwarae'r drymiau. Alun "Gaff" Gaffey (sydd hefyd yn chwarae i'r grwp ffwnc a sgiffl Pwsi Meri Mew) sy'n chwarae'r gitâr. Mae eu holl waith hyd yn hyn wedi ei gynhyrchu gan Euros Childs. Dyluniwyd clawr eu dau EP diweddaraf, Diwrnod efo'r Anifeiliaid a Where is Dennis? / Cartoon Cariad gan Ruth Jên, mae hi hefyd wedi dylunio set ar y cyd gyda'r band ar gyfer eu perfformiadau byw.
Gadawodd y drymiwr Ben Herrick y band yn hwyr yn 2008, a fe gymerwyd ei le gan Gwion Llewelyn.
Newidiwyd enw'r band o Radio Luxembourg i Race Horses ym mis Chwefror 2009, oherwydd y problemau cyfreithiol ynghlwm a rhannu enw gyda'r orsaf radio o'r un enw.
Cyhoeddwyd fod y band yn gwahanu yn mis Ionawr 2013 am resymau creadigol.[1][2]
Yn 2019 aeth Dylan Hughes, un o aelodau'r band, ati i ffurfio band newydd. Ynys.
Disgograffi
[golygu | golygu cod]Radio Luxembourg
[golygu | golygu cod]- Pwer y Fflwer / Lisa, Magic a Porfa - Ciwdod / Cerdd Cymunedol Cymru
- Os Chi'n Lladd Cindy - AM
- Diwrnod efo'r Anifeiliaid, 11 Mawrth 2007, (Recordiau Peski)
- Where is Dennis? / Cartoon Cariad, 5 Tachwedd 2007, (Recordiau Peski)
Race Horses
[golygu | golygu cod]- Cake / Cacen Mamgu
- Goodbye Falkenburg
- Furniture
Gwobrau ac Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Sesiwn C2 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
- EP/Sengl - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
- Y Grŵp a Ddaeth Fwyaf i Amlygrwydd yn Ystod 2005 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
- EP/Sengl/Lawrlwythiad - ar gyfer Os Chi'n lladd Cindy - Gwobrau Roc a Phop C2 2007
- Band/Artist y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop C2 2007
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Race Horses yn rhoi’r ffidil yn y to. Golwg360 (11 Ionawr 2013).
- ↑ Datganiad ar gyfrif Twitter y band
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Race Horses[dolen farw]
- Hen wefan Radio Luxembourg Archifwyd 2007-03-12 yn y Peiriant Wayback
- Radio Luxembourg, BBC Radio Cymru
- Tudalen yn band Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback ar Bandit