Planet
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1970 |
Dechrau/Sefydlu | 1970 |
Dechreuwyd | 1970 |
Pencadlys | Aberystwyth |
Cylchgrawn Cymreig a gyhoeddir pob chwarter yw Planet, "The Welsh Internationalist", sy'n ymdrin â'r celfyddydau, chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, o afbwynt Cymreig. Cyhoeddir barddoniaeth a straeon byrion ym mhob rhifyn o'r cylchgrawn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Planet fel cylchgrawn a gyhoeddwyd pob yn ail mis, gan Ned Thomas, a fu hefyd yn olygydd cyntaf y cylchgrawn, a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Awst 1970. Dilynodd hyn benderfyniad ym 1967 i ddatganoli gweithrediad Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr yng Nghymru i Gyngor Celfyddydau Cymru. Dywedodd Thomas fod gan gyfarwyddwr llenyddiaeth cyngor y celfyddydau ar y pryd, Meic Stephens, weledigaeth o greu canolfan cyhoeddi yng Nghymru, nad oedd wedi bodoli gynt.[1]
Ar noswyl Refferendwm datganoli i Gymru, 1979, gan ragweld pleidlais "na", penderfynnodd Thomas i ddod a'r cylchgrawn i ben gan y credodd fod y bleidlais yn arwydd o fethiant ideoleg y cylchgrawn. Perswadwyd ef i ail-lawnsio'r cylchgrawn ym 1985, gyda ariannu gwell a chyflogwyd John Barnie fel cynorthwyydd llawn amser cyn iddo ddod yn olygydd ym 1990. Olynwyd Barnie gan ei wraig, Helle Michelsen, yn 2006. Dathlodd y cylchgrawn ei benblwydd yn 40 oed gyda chyhoeddiad ei 200fed rhifyn, cyn newid i ddod yn gylchgrawn chwarterol o dan arweiniaeth ei olygydd newydd, Jasmine Donahaye.[1] Yn 2012, cymerodd Emily Trahair y swydd o fod yn golygydd, gyda Dafydd Prys ap Morus yn Golygydd Cynhyrchu a Helen Pendry fel Golygydd Cynorthwyol. Gyda Helen a Dafydd yn ymadael, ymunodd Lowri Angharad Pearson yn 2015 fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol a Marchnata a Hywel Edwards yn 2017 fel Swyddog Cynhyrchu.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol o gartref Thomas a'i wraig Sarah Eskrine yn Llangeitho. Symudodd yn ddiweddarach i'r Hen Goleg yn Aberystwyth.[2]
Golygyddion
[golygu | golygu cod]- 1970–1990 Ned Thomas
- 1990–2006 John Barnie
- 2006–2010 Helle Michelson
- 2010–2012 Jasmine Donahaye
- 2012- Emily Trahair
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Planet magazine's 200th edition goes into orbit. BBC Mid Wales (11 Tachwedd 2010).
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru > Planet Papers. Archifau Cymru. Adalwyd ar 15 Mehefin 2011.