[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Pioden fôr

Oddi ar Wicipedia
Pioden fôr
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Haematopodidae
Genws: Haematopus
Rhywogaeth: H. ostralegus
Enw deuenwol
Haematopus ostralegus
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad y Bioden fôr. Gwyrdd: trwy'r flwyddyn; Melyn: nythu; Glas: gaeaf yn unig.
Ŵy Haematopus ostralegus

Pioden fôr (Haematopus ostralegus) yw aderyn hirgoes y glannau gyda phlu du a gwyn, pig hir syth melyngoch, llygaid coch a choesau pinc pŵl cymharol fyr. Mae'r unig aelod o deulu'r Haematopodidae, y piod môr, sydd i'w gael yn Ewrop, lle mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus ger glan y môr.

Mae tair is-rywogaeth yn nythu yng ngorllewin Ewrop, yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia, Tsieina a Corea. Mae'n aderyn mudol fel rheol, ac mae llawer o adar yn symud i Ogledd Affrica yn y gaeaf, er fod cryn nifer yn gaeafu o gwmpas Prydain ac Iwerddon.

Aderyn hawdd ei adnabod yw'r Bioden fôr, gyda chefn du a bol gwyn, pig mawr coch a choesau coch. Mae'r cyw yn fwy brown o ran lliw. Mae'n byw ar gregyn a phryfed y mae'n ei ddarganfod ar lan y môr fel rheol, ac mae'n arbenigwr ar agor cregyn o wahanol fathau (e.e. wystrys, cregyn bylchog, cregyn gleision ayb.). Yn ddiddorol, mae rhai adar yn arbenigo mewn rhoi y pig i mewn rhwng dau hanner y gragen i'w hagor, tra mae eraill yn torri twll trwy'r gragen, ac mae siâp y pig yn wahanol yn ôl y dull mae'r aderyn hwnnw yn ei ddefnyddio.

Mae'n nythu ar lan y môr fel rheol, ond weithiau ar lannau llynnoedd. Gall y Bioden fôr fyw am flynyddoedd lawer - mae cofnod o rai dros 40 mlwydd oed.

Yng Nghymru mae nifer cymharol fychan yn nythu, ond llawer mwy yn dod i'r traethau i dreulio'r gaeaf.