[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Phil Boswell

Oddi ar Wicipedia
Phil Boswell

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Tom Clarke
Olynydd Hugh Gaffney

Geni (1963-07-23) 23 Gorffennaf 1963 (61 oed)
Drochaid a' Chòta (Coatbridge), Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Coatbridge, Chryston a Bellshill
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Plant 3
Galwedigaeth Syrfewr a pheiriannydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Phil Boswell (ganwyd 23 Gorffennaf 1963) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Coatbridge, Chryston a Bellshill; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark, yr Alban. Mae Phil Boswell yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fel Syrfewr a pheiriannydd yn y diwydiant olew, mae'n credu nad yw Senedd Prydain yn gwasanaethu'r Alban yn ddigon da.

Etholiad 2015

[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Phil Boswell 28696 o bleidleisiau, sef 56.6% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 39.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 11501 pleidlais.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol

[golygu | golygu cod]