Peris
Gwedd
Peris | |
---|---|
Sant Peris ar ffenestr yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis. | |
Ganwyd | Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach, arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 11 Rhagfyr |
Sant o Gymru oedd Peris (bl. 6g efallai) a gysylltir ag Eryri a Gwynedd.
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys amdano, ac nid oes buchedd iddo wedi goroesi. Mae cyfeiriad ato ym Monedd y Saint, lle dywedir iddo fod yn Gardinal yn Rhufain. Efallai ei fod yn fab i Helig ap Glannog o Dyno Helig.[1]
Nant Peris
[golygu | golygu cod]Cysegrwyd eglwys Nant Peris yng Ngwynedd iddo; hwn yw'r sefydliad gwreiddiol, a datblygodd Llanberis gerllaw yn ddiweddarach.[1] Mae eglwys Llanberis wedi ei chysegru i sant Padarn yn hytrach na Peris. Ceir Ffynnon Peris (neu Ffynnon y Sant) yn Nant Peris. Rhoddodd ei enw i Lyn Peris.
Ei wylmabsant yw 11 Rhagfyr.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Baring-Gould, Sabine (1907). Lives of the British Saints.