Penarddun
Gwedd
Yn y traddodiad Cymreig, gwraig Llŷr a merch (neu chwaer) Beli Mawr yw Penarddun. Mewn rhai testunau achyddol mae Arthur yn un o ddisgynyddion Penarddun, ond ni ellir eu derbyn fel achau dilys.
Cyfeirir ati yn yr Ail o Bedair Cainc y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr, fel mam Bendigeidfran, Branwen, a Manawydan gan Llŷr, a mam dau fab arall, sef y gefeilliaid Nisien ac Efnysien, gan Euroswydd.
Yn y Trioedd, rhestrir Llŷr (fel Llŷr Llediaith) yn un o 'Dri Goruchel Garcharor Ynys Prydain' am iddo gael ei ddal yn garcharor gan Euroswydd; dichon fod hyn yn deillio o chwedl goll am ymryson rhwng Euroswydd a Llŷr am gariad Penarddun.[1]
Cyfansoddair yw'r enw Penarddun o pen ac arddun "teg, prydferth (am ferch)"[2]).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), Triawd.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. 1, p. 188.