Pen y Fan
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Rhan o'r canlynol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 886 metr |
Cyfesurynnau | 51.884031°N 3.436765°W |
Cod OS | SO0121021588 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 672 metr |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Bannau Brycheiniog |
Mynydd uchaf de Cymru wedi'i leoli ym Mannau Brycheiniog rhwng Llanymddyfri a Threfynwy, cyfeiriad grid SO012215 yw Pen y Fan (886m / 2,906'). Mae'n gorwedd ar grib uchaf Bannau Brycheiniog, rhwng y Gribyn a Chorn Du.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nutall . Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 215metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 886 metr (2907 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Cyrchfan
[golygu | golygu cod]Mae’r copa yn un o brif gopaon yn Ffordd y Bannau, llwybr droed pellter hir sy’n rhedeg o’r Dwyrain i’r Gorllewin ar draws y masiff, ac sy’n agored i holl gerddwyr. Mae yna lwybr troed graddedig da iawn o’r Storey Arms ar yr A470, sydd 1500 troedfedd yn is. Mae’r llwybr hwn, a llwybrau eraill ar y mynydd yn destun atgyweirio a chynnal a chadw gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyfyngu’r erydu a achosir gan gannoedd a miloedd o gerddwyr sy’n mynd heibio pob blwyddyn. Mae hefyd prif lwybr o’r Cribyn, copa cyfagos i’r Dwyrain.
Y Storey Arms
[golygu | golygu cod]Mae’r Storey Arms yn ganolfan addysg awyr agored gerllaw’r A470, y brif gefnffordd rhwng Gogledd a De Cymru ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ger Libanus, Powys, Cymru. Wedi’i rhedeg gan Gyngor Dinas Caerdydd ers 1971, gall y ganolfan breswyl gynnig llety i 58 o bobl. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys ceufadu a chanŵio, ogofa, cerdded bryniau, dringo creigiau a rafftio dŵr gwyn. Mae’r ganolfan 440 metr (1,444 tr) uwchlaw lefel y môr, ar hyd y ffordd rhwng Pen y Fan a Fan Fawr, ar droed Corn Du. Mae’n bathu ei enw gan dafarn gyda tho brig llechi (wedi’i enwi ar ôl perchennog tir lleol, Storey Maskelyne), a gafodd ei ddymchwel ym 1924. Mae safle’r dafarn wreiddiol i’r Dwyrain o’r ganolfan, ar ddibyn gogledd-ddwyrain maes parcio Pont ar Daf.
Mae bysiau yn stopio pob ochr yr A470 y tu allan i’r ganolfan.
Maes parcio Pont ar Daf 200 metr (656 tr) o ganolfan y Storey Arms, yw’r man mwyaf poblogaidd i dwristiaid a cherddwyr ddechrau ar eu taith i Ben y Fan. Llywodraeth Cymru sy’n perchnogi’r maes parcio, sydd â gofod ar gyfer tua 50 cerbyd. Mae cyfleusterau toiledau ar gael ar y safle.
Mae llwybr troed yn cysylltu canolfan y Storey Arms, safleoedd bws a maes parcio Pont ar Daf i’r llwybr sy’n arwain ar Gorn Du a Phen y Fan.
Enw
[golygu | golygu cod]Mae’r enw Pen y Fan yn cynnwys yr enwau Pen (y) fan, ffurf dreigledig ban (copa, brig, crib, bannau, bryn, mynydd’, ayyb.). Mae’r un enw ban, yn ei ffurf luosog bannau, i’w darganfod yn yr enw Cymraeg ar gyfer y Brecon Beacons: Bannau Brycheiniog.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Bannau Brycheiniog
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2010-10-20 yn y Peiriant Wayback