Pampa
Math | gwastatir, Stepdir, bïom |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | La Plata lowland |
Gwlad | yr Ariannin, Brasil, Wrwgwái |
Uwch y môr | 160 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 35°S 62°W |
- Gweler hefyd Pampa (gwahaniaethu).
Y Pampas (pampa : benthycair o'r iaith Quechua, sy'n meddwl "gwastadedd") yw'r gwastadeddau ffrwythlon yn iseldiroedd De America sy'n cynnwys taleithiau Buenos Aires, La Pampa, Santa Fe, a Córdoba yn yr Ariannin, rhan helaeth o Wrwgwái, a phwynt deheuol Brasil, sef y Rio Grande do Sul, ac sy'n cynnwys dros 750,000 km² (290,000 milltir sgwar). Dim ond bryniau isel Ventana a Tandil ger Bahía Blanca a Tandil(Ariannin), sy'n cyrraedd 1,300 m a 500m, sy'n torri ar undonedd y gwastadeddau anferth hyn. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol, gyda rhwng 600 a 1,200 mm o law, sy'n syrthio trwy'r flwyddyn ac sy'n gwneud y pridd yn addas ar gyfer amaethyddiaeth.
Oherwydd y tanau niferus sy'n torri allan yn lleol, dim ond planhigion llai fel gwair sy'n tyfu yno a phrin yw'r coed. Mae "Gwair Pampas" (Cortaderia selloana) yn blanhigyn sy'n nodweddiadol o'r Pampas. Mae'r Pampas yn gartref i ystod eang o rywogaethau brodorol eraill, ac eithrio coed brodorol, sydd ddim ond i'w cael ar hyd yr afonydd.
Gellid rhannu'r pampas yn dair ardal ecolegol. Gorwedd safana Wrwgwái i'r gorllewin o afon Wrwgwái, ac mae'n cynnwys y cyfan o Wrwgwái a rhan ddeheuol Rio Grande do Sul ym Mrasil. Mae'r Pampas Gwlyb yn cynnwys dwyrain talaith Buenos Aires, a de talaith Entre Rios. Mae'r Pampas Sych, lled-anial, yn cynnwys gorllewin talaith Buenos Aires a rhannau o dalaith Santa Fe, Cordoba, a La Pampa yn yr Ariannin. Mae'r Pampas yn ffinio ar weirdiroedd espinal yr Ariannin.
Ar bampas canolbarth yr Ariannin ceir busnesau amaethyddol llwyddiannus, gyda chnydau'n cael eu tyfu ar y Pampas i'r de a'r gorllewin o Buenos Aires. Mae ffawydd soi yn nodweddiadol a phwysig. Mae rhan helaeth yr ardal yn gartref i ffermydd lle megir gwartheg yn ogystal. Ond mae llifogydd yn broblem ar y tiroedd amaethyddol artiffisial hyn.