[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Poznań

Oddi ar Wicipedia
Poznań
ArwyddairPOZnan* *Miasto know-how Edit this on Wikidata
Mathurban municipality, dinas gyda grymoedd powiat, dinas Hanseatig, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth546,859 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJacek Jaśkowiak Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKharkiv, Kutaisi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGreater Poland Voivodeship Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Arwynebedd261.85 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawWarta Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGmina Kórnik, Gmina Mosina, Luboń, Gmina Komorniki, Gmina Dopiewo, Gmina Tarnowo Podgórne, Gmina Rokietnica, Gmina Suchy Las, Gmina Czerwonak, Gmina Swarzędz, Gmina Kleszczewo, Sir Poznań Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4083°N 16.9336°E Edit this on Wikidata
Cod post60-001 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJacek Jaśkowiak Edit this on Wikidata
Map

Dinas yng ngorllewin Gwlad Pwyl yw Poznań (Almaeneg: Posen, Lladin: Posnania, Iddew-Almaeneg: פּויזן Pojzn). Fe'i lleolir yn is-ranbarth Pojezierzu Wielkopolskim, ar Afon Warta, lle mae Afon Cybina yn aberu. Yn brifddinas draddodiadol Wielkopolska (Gwlad Pwyl Fwyaf) ers 1999, mae'n brifddinas rhanbarth Wielkopolska. Mae'r ddinas yn gyffordd ffyrdd a rheilffyrdd bwysig, yn ogystal ag yn leoliad maes awyr rhyngwladol.

Hi yw'r bumed ddinas fwyaf poblog yng Ngwlad Pwyl (550,700 o drigolion) a'r seithfed o ran arwynebedd (262 km²). Mae Poznan yn gysylltiedig yn economaidd ac yn ddaearyddol gyda'r bwrdeistrefi cyfagos. Mae gan ardal fetropolitan Poznań dros 1 miliwn o bobl yn byw ynddi.

Mae'r ddinas yn ganolfan diwydiant, masnach, logisteg a thwristiaeth. Yma ceir Ffair Ryngwladol Poznań - y ganolfan arddangos fwyaf a hynaf yng Ngwlad Pwyl. Mae Poznań yn ganolfan academaidd, gwyddonol a diwylliannol. Mae 28 o sefydliadau addysg uwch yno, gyda 128,900 yn eu mynychu. O ran diwylliant, ceir cwmni opera, cerddorfa ffilharmonig, bale, theatrau, sinemâu, amgueddfeydd, orielau celf, cerddorfeydd ac ensembles gwerin.

Roedd Poznań yn un o ganolfannau cyfalafol a chrefyddol y wladwriaeth Piast yn y ddegfed a'r 11g; yn y gorffennol hi oedd canolfan brenhinoedd Gwlad Pwyl. Cafodd Poznan siarter trefol ym 1253. Roedd gan y dref rhan weithredol wrth ddewis y brenin. Yn eglwys gadeiriol Poznań y mae arweinwyr cyntaf gwlad Pwyl wedi eu claddu - Mieszko'r Cyntaf a Bolesław Ddewr. Ar Ynys yr Eglwys Gadeiriol hefyd mae pencadlys gweinyddol (Curia) Archesgobaeth Poznan. Yn ogystal â phrifddinas Wielkopolska, roedd yn un o ddinasoedd brenhinol Teyrnas Gwlad Pwyl. Yn 2008 dderbyniodd nifer o gymdogaethau hynaf y ddinas statws heneb hanesyddol.

Nawddsaint dinas Poznan yw: Sant Pedr a Sant Paul, a dethlir gŵyl y ddinas ar 29 Mehefin [1] .

Lleoliad

[golygu | golygu cod]
Panorama o'r Ddinas
Yr Hen Dref gyda aderyn

Lleolir Poznan yng nghanol-orllewin Gwlad Pwyl, yn y rhan ganolog o dalaith Wielkopolska. O safbwynt daearyddiaeth ffisegol, lleolir y ddinas mewn rhannau o dri ardal: y rhan orllewinol yn Ardal Llynnoedd Poznan, y dwyrain ar Wastatir Wrzesinska, a lleolir rhan hynaf y ddinas yng Ngheunant Warta Poznań. Mae'r tair ardal yn rhan o ranbarth ddaearyddol ehangach Ardal Llynnoedd Wielkopolskie.

Lleolir Poznan yn nyffryn Afon Warta ac yn nyffrynnoedd ei llednentydd: Bogdanka Cybina a Głowna.

Ers 1 Ionawr 2012, arwynebedd y ddinas yw 261.91 km². O ran ei ffiniau gweinyddol, mae Poznan yn mesur oddeutu 23 km o'r gogledd i'r de, ac oddeutu 24 km o'r dwyrain i'r gorllewin.

Ceir cytref o amgylch Poznan. Mae 11 bwrdeistref yn ffinio â Poznań, gan gynnwys y ddwy ddinas - Luboń a Swarzędz.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]