Swydd Huntingdon
Gwedd
Math | siroedd hanesyddol Lloegr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 366 mi² |
Yn ffinio gyda | Swydd Northampton, Swydd Gaergrawnt, Swydd Bedford |
Cyfesurynnau | 52.381344°N 0.220545°W |
Sir hanesyddol yn nwyrain Lloegr oedd Swydd Huntingdon (Saesneg: Huntingdonshire). Roedd ganddi swyddogaeth weinyddol o'r oesoedd canol hyd at 1974. Roedd Swydd Northampton i'r gogledd-orllewin, Swydd Bedford i'r de-orllewin, a Swydd Gaergrawnt i'r dwyrain. Roedd yn sir weinyddol rhwng 1889 a 1965, pan gafodd ei gyfuno â'r Soke of Peterborough i ffurfio'r uned weinyddol byrhoedlog Swydd Huntingdon a Peterborough. Yn 1974 daeth yn ardal an-fetropolitan o fewn Swydd Gaergrawnt. (Gweler Huntingdonshire.) Y dref sirol hanesyddol oedd Huntingdon.