Stirling
Math | dinas, large burgh |
---|---|
Poblogaeth | 37,610 |
Gefeilldref/i | Budapest District III |
Daearyddiaeth | |
Sir | Stirling |
Gwlad | Yr Alban |
Yn ffinio gyda | Callander |
Cyfesurynnau | 56.1166°N 3.9369°W |
Cod SYG | S20000472, S19000589 |
Cod OS | NS795935 |
Cod post | FK7, FK8, FK9 |
Dinas yn yr Alban yw Stirling[1] (Gaeleg yr Alban: Sruighlea;[2] Sgoteg: Stirlin),[3] sy'n brifddinas ardal cyngor Stirling. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 41,243; y ddinas leiaf yn yr Alban.
Saif y ddinas o amgylch Castell Stirling, ar fryn sydd wedi bod o bwysigrwydd strategol ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid. Credir mai Stirling oedd caer Iuddeu neu Urbs Giudi, lle gwarchaewyd ar Oswiu, brenin Northumbria gan Penda, brenin Mersia yn 655.
Stirling oedd y man isaf lle gellid croesi Afon Forth, ac mae ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban. Ymladdwyd nifer o frwydrau yma, yn cynnwys buddugoliaeth William Wallace dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling a buddugoliaeth Robert Bruce dros fyddin Edward II, brenin Lloegr ym Mrwydr Bannockburn.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Canolfan Thistles
- Castell Stirling
- Cofadeilad Cunninghame Graham
- Eglwys Gadeiriol Dunblane
- Gorsaf Stirling
- Y Raploch
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Billy Bremner (1942-1997), chwaraewr pêl-droed
- Willie Carson (g. 1942), joci
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Hydref 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-06 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 6 Hydref 2019
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 10 Ebrill 2022