Stanley Llewellyn Wood
Stanley Llewellyn Wood | |
---|---|
Texas cowboy gan Stanley L. Wood (1866-1928) | |
Ganwyd | 10 Rhagfyr 1866 Maendy |
Bu farw | 21 Mawrth 1928 Palmers Green |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd |
Blodeuodd | 1885 |
Arlunydd o Gymru o dras Seisnig oedd Stanley Llewellyn Wood (1867 – 21 Mawrth 1928). Roedd yn enwog am ei ddarluniau mewn cylchgronau anturiaethau i fechgyn, yn enwedig cylchgronau am geffylau a'r Gorllewin Gwyllt.[1]
Ganwyd Stanley yn y Faendy, Casnewydd, yn yr hen Sir Fynwy, yn fab i'r cynhyrchydd sment Stanley James Wood a'i wraig Charlotte (Atkins gynt) o Lundain. Roedd gan y Stanley ifanc bedair chwaer hŷn, tair ohonynt wedi eu geni yn ne Lloegr ac un ohonynt hefyd yn enedigol o Gasnewydd. Magwyd Stanley yng Nghasnewydd yn ardal Eglwys y Drindod.
Teithiodd y teulu i'r Unol Daleithiau pan oedd Stanley yn 12 oed symudodd y teulu i fyw ar ransh yn Kansas. Bu farw'r tad, ac amgylchynwyd y tŷ gan ryfelwyr o lwyth brodorol yr Ute. Gorchmynodd Charlotte i'w phlant wisgo botasau marchogaeth ac ysbardunau, ac i droedio'n drwm drwy'r tŷ yn gwneud sŵn. Llwyddodd i dwyllo'r brodorion i gredu bod y tŷ yn llawn dynion, a gadawant y ransh.
Dychwelodd y teulu i Brydain ac ymsefydlodd Stanley gyda'i fam Charlotte yn St Pancras, Llundain. Yno, dechreuodd Stanley ar ei yrfa fel arlunydd. Darluniodd ar gyfer papurau newydd a chylchgronau, gan gynnwys sawl cyhoeddiad i fechgyn. Darluniodd hefyd ar gyfer llyfrau straeon i fechgyn. Yn ogystal â'i brofiadau yn America, roedd bywyd Wood yn addas at gynnwys ei waith: roedd yn athletwr amryddawn, yn hoff o nofio, paffio, a marchogaeth, ac yn deithiwr. Peintiodd golygfeydd o'r Gorllewin Gwyllt a rhyfel, gan gynnwys brwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Priododd Mary Elizabeth Jenkins yn Fulham ar 21 Chwefror 1899. Cawsant tri mab: Stanley Montague, Henry Lawrence a Jack Steward. Roedd yn sâl yn wythnosau terfynol ei fywyd, ond gafaelai'r pin darlunio yn ei law hyd y diwedd. Bu farw yn ei gartref yn Palmers Green, Middlesex, yn 61 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Artists and Illustrators of the Anglo-Boer War - Ryno Greenwall (Fernwood Press 1992)