Sleepy Hollow (ffilm)
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Tim Burton |
Cynhyrchydd | Scott Rudin Adam Schroeder Francis Ford Coppola Larry J. Franco |
Ysgrifennwr | Sgript: Kevin Yagher Andrew Kevin Walker Nofel: Washington Irving |
Serennu | Johnny Depp Christina Ricci Miranda Richardson Michael Gambon Casper Van Dien Jeffrey Jones Richard Griffiths Ian McDiarmid Michael Gough Christopher Walken |
Cerddoriaeth | Danny Elfman |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 19 Tachwedd 1999 |
Amser rhedeg | 105 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Ffilm gan Tim Burton yw Sleepy Hollow. Mae'r ffilm yn dehongli chwedl The Headless Horseman ac wedi ei seilio'n rhydd ar stori Washington Irving, The Legend of Sleepy Hollow. Roedd y ffilm yn drydedd cyd-weithiad rhwng Johnny Depp a Burton, mae'r ffilm hefyd yn serennu Christina Ricci, Michael Gambon, Miranda Richardson, Casper Van Dien, Jeffrey Jones, Ian McDiarmid, Michael Gough, Richard Griffiths a Christopher Walken. Mae'r stori'n troi oamgylch cwnstabl yr heddlu, Ichabod Crane, sy'n cael ei afnon o Ddinas Efrog Newydd i ychwilio cyfres o lofruddiadau ym mhentref Sleepy Hollow, gan y Headless Horseman dirgel. Mae steil themâu'r stori yn cymryd ysbrydoliaeth gan y diweddar Cynyrchiadau Ffilm Hammer.
Bu Sleepy Hollow yn cael ei ddatblygu ers 1994, bwriadwyd yn wreiddiol i Kevin Yagher ei gyfarwyddo. Fe lusgodd datblygiad y ffilm ymlaen yn ddigon i Burton ei chyfarwyddo. Roedd ef eisoes wedi gweithio'n anlwyddianus ar y ffilm Superman Lives. Fe gymerodd y ffilmio le yn gyfan ar set a adeiladwyd yn Lloegr. Rhyddhawyd Sleepy Hollow ar 19 Tachwedd 1999, i lwyddiant yn y box office a beirniadaeth cymeradwyol, gan ennill tua $206 miliwn (gros) yn fyd eang a chael sgôr o 73% yn Rotten Tomatoes.