[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Silstwn

Oddi ar Wicipedia
Silstwn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Traeth Silstwn. Gwelir rhan o Wlad yr Haf yn y pellter dros Fôr Hafren

Pentref bychan ar arfordir Bro Morgannwg, de Cymru, yw Silstwn (Saesneg: Gileston).

Gorwedd y pentref ar lan Môr Hafren tua 15 milltir i lawr yr arfordir o ddinas Caerdydd, rhwng Y Barri a Llanilltud Fawr. I'r gogledd mae pentref Sain Tathan. Llifa Afon Ddawan heibio i'r pentref.

Gerllaw ceir pwerdy trydan Aberddawan. Ceir sawl blwch pil o'r Ail Ryfel Byd ar y traeth, sy'n cynnig golygfa dros y sianel i arfordir Gwlad yr Haf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.