[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Nia Williams

Oddi ar Wicipedia
Nia Williams
GanwydLlanfaelog, Ynys Môn
Alma materYsgol Uwchradd Bodedern a Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Actores o Gymru fu'n rhan o'r gyfres Rownd a Rownd o'i chychwyn, yw Nia Williams. Bu'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au, gan ddechrau ei gyrfa gyda Hwyl a Fflag.

Yn enedigol o Lanfaelog, Ynys Môn, a thra'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern y penderfynodd ddilyn y trywydd actio. Aeth yn ei blaen i astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.[1]

Wedi graddio, bu'n gweithio gyda chwmnïau theatr amrywiol fel Theatr Masquerade, Theatr Bara Caws, Hwyl a Fflag a Cwmni Theatr Gwynedd.

Ym 1995, ymunodd â chast Rownd a Rownd yn portreadu Nia Carter, perchennog caffi 'Sgram' sy'n ganolbwynt i lawer o ddrama'r gyfres.[1]

Detholiad

Theatr

[golygu | golygu cod]

Teledu / Ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Nia Williams". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-24.
  2. Moffitt, Dominic (2021-10-03). "The original cast of Rownd a Rownd and where they are now". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.