Neuadd y Palé
Math | adeiladwaith pensaernïol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pale Estate |
Lleoliad | Llandderfel |
Sir | Llandderfel |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 182.2 metr |
Cyfesurynnau | 52.9125°N 3.5144°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Plasty Jacobeaidd Gradd II* yw Neuadd y Palé neu Palé Hall a godwyd rhwng 1869-1871 gan y peiriannydd rheilffyrdd Henry Robertson A.S. Saif ger pentref Llandderfel yn Nyffryn Edeyrnion, ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Ddinbych. Fei hatgyweiriwyd yn y 1980au ac mae bellach yn westy.
Roedd y 'Neuadd', fel y'i gelwid yn un o'r adeiladau cyntaf yng Nghymru i greu ei thrydan ei hun ar ddechrau 20c a chynhyrchwyd nwy yma hefyd ar gyfer y plasty a phentref Llandderfel, a leolir tua 1.2 km i'r de o bentref Llandderfel. Yn 1889 arhosodd y frenhines Victoria yma am 10 diwrnod, a chafodd ei diddori gan y sipsi Cymreig John Roberts a naw o'i feibion.[1] Arhosodd Winston Churchill yma yn y 1950au.[2][3]
-
Henry Robertson A.S.
-
Neuadd y Palé yn 2016
Perchnogion
[golygu | golygu cod]Yn y 1950au fe'i prynnwyd gan Ddug Westminster ar gyfer hela.
Prynnwyd a diweddarwyd y gwesty yn 2016 gan Alan a Angela Harper gyda phartner yn gyfrifol am y bwydlenni, sef y cogydd Michael Caines; fe'i agorwyd yn Haf 2016.[4] Roedd Alan yn benaeth Vodaphone UK am rai blynyddoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 12 Tachwedd 2016.
- ↑ Gwefan papur newydd telegraph.co.uk; adalwyd 12 Tachwedd 2016.
- ↑ famouswelsh.com adalwyd 12 Tachwedd 2016.
- ↑ Gwefan swyddogol; Archifwyd 2016-11-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Tachwedd 2016.