Mynydd Carnguwch
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 357.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.95898°N 4.42126°W |
Cod OS | SH3746442924 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 102 metr |
Rhiant gopa | Yr Eifl |
Bryn yn Llŷn, Gwynedd yw Mynydd Carnguwch (359 m). Saif tua milltir a hanner i'r de o gopaon Yr Eifl, tua hanner ffordd rhwng Llithfaen a Llanaelhaearn; cyfeiriad grid SH374429. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 255metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Ceir carnedd anferth ar gopa'r bryn sy'n mesur tua 30 m ar draws ac sy'n 6 m o uchder. Mae'n bosibl bod y garnedd hon yn dyddio o Oes yr Efydd.
Gorwedd Mynydd Carnguwch ym mhlwyf Carnguwch, ac ymddengys fod y ddau le fel ei gilydd wedi eu henwi ar ôl y garnedd ar ben y bryn.
Y copa
[golygu | golygu cod]Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 359m (1178tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 8 Mehefin 2009.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback