Merfog
Merfog | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cypriniformes |
Teulu: | Cyprinidae |
Genws: | Abramis |
Rhywogaeth: | A. brama |
Enw deuenwol | |
Abramis brama (Linnaeus 1758) |
Pysgodyn sy'n byw mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Cyprinidae ydy'r merfog sy'n enw gwrywaidd; lluosog: merfogiaid (Lladin: Abramis brama; Saesneg: Common bream). Caiff ei ystyried, bellach, fel yr unig aelod o'r genws Abramis.
Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop: i'r gogledd o'r Alpau a'r Pyreneau yn ogystal â'r Balcanau. Fe'i ceir i'r dwyrain cyn belled â'r Môr Caspia, y Môr Du a'r Môr Aral. Mae'n bysgodyn dŵr croyw ac mae i'w ganfod ar arfordir Cymru.
Mae'r Merfog i'w ganfod mewn pyllau dŵr, llynnoedd a chamlesi, a hyd yn oed afonydd llif-araf. Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r merfog rhwng 30 a 55 cm (12 i 22 modfedd) ar gyfartaledd, ac yn pwyso 2 4 kg (4.4 to 8.8 pwys). Mae'r enghraifft mwyaf ohono tipyn yn fwy na hyn, fod bynnag: 90 cm (35.5 mod) a 9.1 kg (20 pwys)!
Mae'n llwyd ysgafn ei liw, sy'n tywyllu ychydig, wrth i'r pysgodyn fynd yn hŷn, gyda gwawr ysgafn, goch, yn enwedig mewn dŵr glân. Mae'r ffins yn llwyd tywyll, heb wawr goch.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr o greaduriaid morol gwledydd Prydain
- Rhestr Goch yr IUCN, rhestr o greaduriaid wedi'u dosbarthu i 9 categori yn ôl niferoedd, prinder, cadwraeth ayb.
- Llwybr yr Arfordir
- Cadwraeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
- Gwefan Llên Natur; termau safonol.