Menna Gallie
Menna Gallie | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mawrth 1919 Ystradgynlais |
Bu farw | 17 Mehefin 1990 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Priod | Walter Bryce Gallie |
Nofelydd o Gymru oedd Menna Patricia Humphreys Gallie (1920 – 1990).
Ganwyd Gallie yn 1920 ym mhentre glofaol Ystradgynlais yng Nghwm Tawe, ac fe'i magwyd yno, ac wedi hynny yng Nghreunant. Siaradai ei rhieni Gymraeg, ei thad yn grefftwr o ogledd Cymru a'i mam yn ddynes leol. Graddiodd yn 1940 o Brifysgol Cymru Abertawe ac yn yr un flwyddyn priododd Bryce Gallie, Albanwr oedd yn darlithio mewn athroniaeth yn Abertawe. Buont yn byw mewn gwahanol fannau yn dilyn diwedd y rhyfel yn cynnwys Gogledd Iwerddon, America a Chaergrawnt. Symudasant yn ôl i Gymru yn 1978, i Drefdraeth yn Sir Benfro. Ysgrifennodd chwe nofel, tair ohonynt, Strike for a Kingdom (1959), The Small Mine (1962), a Travels with a Duchess (1969), wedi eu lleoli yn ne Cymru, ac wedi eu hailgyhoeddi gan Honno. Bu hefyd yn gyfrifol am gyfieithu'r nofel Un Nos Ola Leuad/Full Moon (1973) i'r Saesneg.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Strike for a Kingdom (1959)
- Man's Desiring (1960)
- The Small Mine (1962)
- Travels with a Duchess (1968)
- You're Welcome to Ulster! (1970)
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Menna Gallie ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |