Meg Elis
Meg Elis | |
---|---|
Ganwyd | Margaret Ann Ellis 26 Hydref 1950 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur, cyfieithydd |
Tad | Thomas Iorwerth Ellis |
Perthnasau | Thomas Edward Ellis |
Gwleidydd, cyfieithydd ac awdur toreithiog yw Meg Elis (ganwyd 26 Hydref 1950) a safodd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 ar ran Plaid Cymru ac sy'n byw ers rhai blynyddoedd yn Waunfawr, Caernarfon.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Margaret Ann Ellis yn Aberystwyth yn ferch i Thomas Iorwerth Ellis a Mari Ellis. Roedd ei mam yn ei galw yn Marged. Yn y coleg roedd cyn-gariad yn hoff o dalfyrru enwau a felly cafodd yr enw 'Meg'.[1]
Mynychodd Ysgol Ramadeg Ardwyn ac aeth ymlaen i astudio yn Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Yn yr adeg yma bu'n ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith ac aeth i'r carchar dwy neu dair gwaith. Bu hefyd yn protestio yn Greenham Common.[2]
Roedd ganddi fusnes o'r enw 'NEWID' yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a bu'n newyddiadurwr ac yn gynhyrchydd radio cyn hynny.[3]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]- Medal Ryddiaith, 1985 - Cyn daw'r gaeaf gan Meg Elis (Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl 1985)
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Dewch At Eich Gilydd"" (Hydref 2015 ISBN 9781907424793 (1907424792)
- Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2015; Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn, Caernarfon. Nofel.[4]
- I'r Gâd! (ISBN 0904864006); Gwasg y Lolfa; Ffuglen[5]
- Carchar (ISBN 0904864510); Gwasg y Lolfa; Ffuglen
- Tinboeth (gyda Caryl Lewis, Eigra Lewis Roberts, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts, Gwyneth Glyn, Siân Northey a Fflur Dafydd) Tachwedd 2007 (Gwasg Gwynedd)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Beti a'i Phobol - Meg Elis. BBC Cymru (2 Gorffennaf 2017). Adalwyd ar 28 Medi 2020.
- ↑ BBC - Llais Merch. BBC Cymru. Adalwyd ar 28 Medi 2020.
- ↑ cyfieithwyr.cymru; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ amazon.co.uk; adalwyd Rhagfyr 2016.
- ↑ Gwasg y Lolfa;[dolen farw] adalwyd Rhagfyr 2016.