Mark Ronson
Mark Ronson | |
---|---|
Ganwyd | Mark Daniel Ronson 4 Medi 1975 Notting Hill |
Man preswyl | Llundain, Los Angeles, Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | Allido Records, Columbia Records, Roc Nation |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | troellwr disgiau, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, gitarydd, canwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B |
Priod | Joséphine de La Baume, Grace Gummer |
Partner | Rashida Jones |
Perthnasau | Gerald Ronson |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Golden Globe Award for Best Original Song, Gwobr Gammy Cynhyrchydd y Flwyddyn, nid Clasurol |
Gwefan | https://markronson.co.uk |
Mae Mark Daniel Ronson (ganwyd 4 Medi 1975) yn artist, cynhyrchydd cerddoriaeth a chyd-sylfaenydd Recordiau Allido. Daw o Loegr ac mae wedi ennill Gwobr y BRITs a Gwobr Grammy deirgwaith. Canolbwyntiodd ei albwm cyntaf, Here Comes the Fuzz, ar hip hop Americanaidd. Er gwaethaf y ffaith iddo gyd-weithio â Sean Paul, Nate Dogg a Ghostface Killah, ni gafodd fawr o lwyddiant yn y siart.
Canolbwyntiodd ei ail albwm, Version ar y sîn gerddorol Brydeinig ac yn cynnwys fersiynau newydd o ganeuon bandiau fel Radiohead, Maximo Park, The Smiths, Amy Winehouse, The Zutons a'r Kaiser Chiefs. Mae'r albwm yn cynnwys tair cân a gyrhaeddodd y deg uchaf yn y siart ac enillodd Ronson Wobr BRIT am yr Artist Gwrywaidd Gorau yn 2008. Ef yw'r person cyntaf i beidio a chanu ar y recordiad i ennill Gwobr Brit.