Môr-ladron Barbari
Math | grŵp ethnig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Roedd y Môr-ladron Barbari, a elwir weithiau yn Corsairs Barbari neu Corsairs yr Otomaniaid , yn fôr-ladron o Ymerodraeth yr Otomaniaid a phreifatiriaid bu'n gweithredu o Ogledd Affrica.
Ardal Gweithgaredd
[golygu | golygu cod]Roedd y môr-ladron Barbari yn weithredol yn bennaf o borthladdoedd Salé, Rabat, Alger, Tiwnis, a Tripoli. Roedd yr ardal hon yn cael ei hadnabod yn Ewrop fel yr Arfordir Barbari, term sy'n deillio o enw ei drigolion y Berber. Roedd eu hardal ysglyfaethu yn ymestyn drwy gydol Y Môr Canoldir, ar hyd arfordir Gorllewin Affrica ac ar hyd Gogledd yr Iwerydd mor bell â Gwlad yr Iâ. Eu prif faes gweithredu oedd gorllewin y môr Canoldir. Yn ogystal â chipio llongau masnach, roeddynt hefyd yn gwneud Razzias, cyrchoedd ar drefi a phentrefi arfordirol, yn bennaf yn yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, a Phortiwgal, ond hefyd yn Ynysoedd Prydain, yr Iseldiroedd ac mor bell i ffwrdd â gwlad yr Iâ. Prif bwrpas eu hymosodiadau oedd dal Cristnogion yn gaethweision ar gyfer masnach caethwasanaeth yr Otomaniaid â'r fasnach caethwasanaeth Arabaidd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Er bod cyrchoedd o'r fath wedi digwydd ers yn fuan wedi'r goncwest Fwslimaidd o Iberia, mae'r termau "Môr-ladron Barbari" fel arfer yn cyfeirio at y gwylliaid oedd yn weithredol o'r 16 ganrif ymlaen, pan gafodd ystod ac amlder yr ymosodiadau eu cynyddu. Yn y cyfnod hwnnw daeth Algiers, Tunis a Tripoli o dan sofraniaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid, un ai fel taleithiau neu fel dibyniaethau a oedd yn cael eu hadnabod fel y Taleithiau Barbari. Bu cyrchoedd tebyg yn deillio o Salé a phorthladdoedd eraill Moroco hefyd.
Bu i fôr-ladron Barbari dal miloedd o longau masnach ac ymosod yn barhaus ar drefi arfordirol. O ganlyniad, bu trigolion yn gadael eu hen bentrefi ar hyd darnau hir o arfordir Sbaen a'r Eidal. Cafodd rhwng 100,000 a 250,000 o Iberiaid eu caethiwo gan y cyrchoedd.[2]
Roedd cyrchoedd o'r fath yn broblem i aneddiadau arfordirol hyd y 19 ganrif. Rhwng 1580 a 1680 honnir bod y mor-ladron wedi dal 850,000 o bobl fel caethweision ac o 1530 i 1780 cymaint â 1,250,000. Fodd bynnag, mae'r niferoedd hyn wedi cael eu hamau gan yr hanesydd David Earle. Bu rhai o'r mor-ladron yn alltudion o dras Ewropeaidd megis John Ward, Zymen Danseker,[3] Hayreddin Barbarossa ac Oruç Reis. Daeth y môr-ladron Ewropeaidd hyn â thechnegau hwylio ac adeiladu llongau gwell i Arfordir Barbari yn y 1600au, a oedd yn galluogi'r corsairs i ehangu eu gweithgareddau i Gefnfor yr Iwerydd. Cyrhaeddodd cyrchoedd y Barbari eu huchafbwynt o ddechrau i ganol yr 17 ganrif.
Diwedd y môr-ladron
[golygu | golygu cod]Ymhell wedi i'r Ewropeaid rhoi'r gorau i longau rhwyfo o blaid llongau hwylio oedd yn gallu cario tunnell o fagnelau pwerus, bu'r Barbari yn parhau i ddefnyddio rhwyflongau yn cario cant neu fwy o ddynion wedi eu harfogi gyda cytlasau ac arfau bychain. Pan fyddant yn dod ar draws ffrigad Ewropeaidd byddent yn ffoi.[4]
Dechreuodd gweithgaredd y mor-ladron Barbari leihau yn y rhan olaf y 17g,[5] wrth i'r llyngesau Ewropeaidd mwy pwerus gorfodi'r gwladwriaethau Barbari i wneud heddwch a rhoi'r gorau i ymosod ar eu llongau. Fodd bynnag, bu llongau ac arfordiroedd gwledydd Cristnogol heb y fath amddiffyniad morwroll yn parhau i ddioddef hyd yn gynnar yn y 19 ganrif. Yn dilyn y Rhyfeloedd yn erbyn Napoleon a Chyngres Fienna ym 1814-15, cytunodd y pwerau Ewropeaidd bod angen atal y môr-ladron Barbari yn gyfan gwbl a daeth y bygythiad, i bob pwrpas, i ben. Bu ambell i ddigwyddiad achlysurol, gan gynnwys dau ryfel rhwng y Barbari a'r Unol Daleithiau. Daeth cyfnod y môr ladron i ben yn gyfan gwbl gyda choncwest Ffrainc o Algiers ym 1830
Ymosodiadau ar Gymru
[golygu | golygu cod]Yn y 16g a’r 17g cododd Syr Thomas Mostyn o ardal Llandudno bedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru, ar gynllun tyrau Genoa yng Nghorsica, fel mannau gwylio, rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o Ogledd Affrica a'r Twrc. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.
-
Tŵr Bryniau, neu 'Cadair Freichiau Nain'
-
Tŵr ychwanegol Eglwys Rhos, neu 'Cadair y Rheithor
-
Tŵr Abergele - 'Bryn Tŵr'
-
'Tŵr Allt y Garreg', Chwitffordd
Felly, roedd gan Deulu Mostyn bedwar tŵr i gadw golwg ar fôr-ladron Barbari ac roedd yn bosib anfon neges o'r naill i'r llall (drwy gynnau coelcerth, rhan amlaf) pan oedd angen. Er hynny, does yna ddim tystiolaeth bod ‘Môr-ladron Barbari’ wedi ymosod ar Ogledd Cymru[6].
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "British Slaves on the Barbary Coast".
- ↑ "Fort Caroline, the Search for America's Lost Heritage".
- ↑ Review of Pirates of Barbary by Ian W. Toll, New York Times, 12 Dec. 2010
- ↑ Conlin, Joseph R. The American Past: A Survey of American History, Volume I: To 1877. t. 206.
- ↑ Chaney, Eric (2015-10-01). "Measuring the military decline of the Western Islamic World: Evidence from Barbary ransoms". Explorations in Economic History 58: 107–124. doi:10.1016/j.eeh.2015.03.002. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0014498315000169.
- ↑ Secret Llandudno, John Lawson-Reay, Amberley Publishing Limited, 15 Hydref 2017