Llofruddiaeth Lola Daviet
Enghraifft o'r canlynol | achos troseddol |
---|---|
Dyddiad | 14 Hydref 2022 |
Ar 14 Hydref 2022, canfuwyd corff merch 12 oed o'r enw Lola Daviet mewn cist blastig ar olwynion, mewn iard y tu allan i'w hadeilad fflatiau yn y 19eg arrondissement ym Mharis, Ffrainc. Yn ôl yr awtopsi, cafodd ei thagu i farwolaeth.[1] Cafodd menyw 24 oed ei harestio a'i chadw yn y ddalfa ar sail amheuaeth ei bod yn gyfrifol o lofruddiaeth, treisio, ac arteithio'r ferch. Mae'r fenyw yn fewnfudwraig o Algeria, a chanddi drwydded breswyl wedi dod i ben, ac felly dan orchymyn i adael Ffrainc.[2]
Ymatebodd nifer o Ffrancod, yn enwedig o'r adain dde, drwy gyhuddo'r llywodraeth o ddiffyg gorfodi rheolau mewnfudo.[3] Cynhaliwyd rali er cof am Lola ym Mharis ar 20 Hydref, er i'w theulu beidio â rhoi sêl bendith arni. Ar 21 Hydref, datganodd yr Arlywydd Emmanuel Macron ei fod yn weithred o "ddrwg enbyd", a bod angen "parch a serch y genedl" ar deulu'r ferch.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Paris shocked by murder of Lola, 12, found in box", BBC (18 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2022.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Alexandra Fouché, "Lola: Girl's murder an act of 'extreme evil', President Macron says", BBC (21 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2022.
- ↑ (Saesneg) Paul Kirby, "Paris murder: Killing of Lola, 12, sparks immigration row in France", BBC (18 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudale we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2022.