[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Llanwynno

Oddi ar Wicipedia
Llanwynno
Yr olygfa o'r eglwys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysybŵl a Choed-y-cwm Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod OSST029955 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Llanwynno (Seisnigiad: Llanwonno). Saif rhwng Cwm Cynon a Chwm Rhondda.

Gorwedd y pentref tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Pontypridd, yn y bryniau rhwng y Rhondda Fach a Chwm Cynon. Mae ffyrdd yn ei gysylltu â Phontypridd i'r de, Penrhiw-ceibr i'r dwyrain a Glynrhedynog i'r gorllewin.

Fforest Llanwynno

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]

Ceir sawl cyfeiriad at Llanwynno yn hunangofiant Glanffrwd. Anfarwolwyd Llanwynno i'r darllenwyr Saesneg gan Gwyn Thomas, y nofelydd a darlledwr, yn A Few Selected Exits (1968). Ffilmwyd yr hunangofiant hwn fel Selected Exits (1993) yn Llanwynno efo Anthony Hopkins yn chwarae rhan Gwyn.

Claddwyd Guto Nyth Bran yn Eglwys Sant Gwynno, a chynhelir rasys Nos Galan er cof amdano, rasys sy'n gorffen yn 'Sgwar Guto' Aberpennar. Roedd hen blwyf Llanwynno yn cynnwys ar un adeg Abercynon, Penrhiwceiber, Ynysybwl, darnau o Aberpennar a Phontypridd, Porth, Ynyshir a Blaenllechau yn y Rhondda.

Hamdden

[golygu | golygu cod]

Yn Fforest Llanwynno gerllaw mae Canolfan Gweithgareddau Allanol Daerwynno.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Hanes Plwyf Llanwynno 1843-90, yn wreiddiol yn Y Darian wedyn ar ffurf llyfr ym 1888
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014