Llannerch Hudol
- Erthygl am y cwmwd ym Mhowys yw hon. Am y cwmwd yn Nyffryn Clwyd, gweler Llannerch (cwmwd). Gweler hefyd Llannerch.
Cwmwd yn Nheyrnas Powys oedd Llannerch Hudol. Gorweddai yn ne-ddwyrain y deyrnas (gogledd Powys heddiw), yn agos i'r ffin â Lloegr. Pan ymrannwyd teyrnas Powys ddiwedd y 12g, daeth yn rhan o dywysogaeth Powys Wenwynwyn.
Cwmwd bychan oedd y Llannerch Hudol, yn ffinio â chwmwd Gorddwr i'r dwyrain, cantref Cedewain i'r de, Caereinion i'r gorllewin a chwmwd Ystrad Marchell i'r gogledd. Ei brif ganolfan o'r 12g ymlaen oedd y Trallwng, safle castell mwnt a beili a godwyd gan Cadwgan ap Bleddyn o Bowys a elwyd y Castell Coch (Domen Castell yn y Trallwng heddiw efallai).
O'r 11g ymlaen bu'r cwmwd yn destun ymrafael cyson rhwng y Normaniaid a ymsefydlasant ar hyd y Mers a brenhinoedd a thywysogion Powys. Daeth y Trallwng yn ganolfan bwysig i arglwyddi Normanaidd y Mers yn eu hymgyrch i reoli canolbarth Cymru. Gyda'i chymdogion Ystrad Marchell a Gorddwr, daeth yn rhan o ardal weinyddol Normanaidd a elwid y Teirswydd.