Llys Gwenllian
Gwedd
Math | castell mwnt a beili, adfeilion castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ceinmeirch |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.168322°N 3.412992°W |
Cod OS | SJ0562064399 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE019 |
Tua tri-chwarter milltir i'r de o Ddinbych, ger Pont Ystrad, saif olion Llys Gwenllian, sef caer neu gastell mwnt a beili. Galwyd y llys am flynyddoedd yn 'Llys Gwenllian' (Cyfeirnod OS: SJ06SE1) ac yn Hen Ddinbych. [1] Dywed rhai mai dyma leoliad gwreiddiol Dinbych.
Mae'r olion a welir heddiw mewn siap petryal ac yn mesur tua 75m wrth 54m.[2] Mae'r mwnt ei hun tua 6.5m o uchder.
Cyflwynodd Llywelyn Fawr (c.1173 – 1240) y tir yn anrheg i'w ferch anghyfreithlon Gwenllian a briododd William de Lacey.[3][4] Yn 1283, flwyddyn wedi lladd y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Rhoddodd Edward I, brenin Lloegr orchymun i godi'r castell presennol (tua milltir oddi yma) yn ei ymgais o orchfygu Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dictionary of Place-names gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer, 2008.
- ↑ coflein.gov.uk; adalwyd 4 Tachwedd 2020, gyda ffos o'i gwmpas.
- ↑ ffish.com; achau Llywelyn Fawr. Adalwyd 4 Tachwedd 2020.
- ↑ [1] Mapiau a lluniau lloeren o'r hen lys