[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Llyn Celyn

Oddi ar Wicipedia
Llyn Celyn
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.95°N 3.6939°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Cronfa ddŵr fawr yw Llyn Celyn, a adeiladwyd ym 1961 drwy adeiladu argae ar draws Afon Tryweryn yng ngogledd Cymru. Mae'n gorwedd ar yr A4212 tua tair milltir i'r gorllewin o'r Bala, Gwynedd.

Capel Coffa Tryweryn gerllaw Llyn Celyn

O ganlyniad i greu'r gronfa, boddwyd pentref Capel Celyn, rhywbeth fu'n achos llawer o ddicter yng Nghymru gyda llu o brotestiadau ac ymosodiadau â ffrwydron yn erbyn y gwaith adeiladu gan Owain Williams, Emyr Llewelyn, John Albert Jones ac eraill. Tyfodd Byddin Rhyddid Cymru a Mudiad Amddiffyn Cymru o'r gweithgareddau lled-filwrol hyn. Roedd y pentref yn un o gadarnleoedd y diwylliant Cymraeg, a bwriad y gronfa oedd cyflenwi dŵr i Lerpwl a'r cyffiniau yng ngogledd-orllewin Lloegr. Llwyddodd Cyngor Dinas Lerpwl i gael y ddeddf angenrheidiol trwy San Steffan er i 35 allan o 36 Aelod Seneddol Cymru bleidleisio yn erbyn y mesur. Bu hyn yn achos cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i Blaid Cymru. Yn Hydref 2005, cytunodd Cyngor Dinas Lerpwl i ymddiheuro'n gyhoeddus am y digwyddiad.

Adeiladwyd y gronfa i reoli llif Afon Dyfrdwy fel bod modd tynnu dŵr ohoni yn is i lawr. Mae dŵr yn cael ei ollwng o'r gronfa i Afon Tryweryn ac felly i Afon Dyfrdwy. Oherwydd fod modd rheoli'r llif, mae'r rhan o Afon Tryweryn islaw'r argae yn boblogaidd ar gyfer canŵio gan ymwelwyr.

Perygl Gradd A

[golygu | golygu cod]

Yn 2020, cyflawnwyd archwiliad 10 mlynedd gan Beiriannydd Panel annibynnol ac erbyn 2024 cychwynwyd gwaith o greu gofer (neu 'gorlifan') argyfwng newydd, gan i beiriannwyr ragweld y gall wythnosau o law fod yn beryglus iawn.[1]

Gofer newydd; 2014

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Owain Williams, Cysgod Tryweryn (Ail argraffiad: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. corporate.dwrcymru.com; Gwefan Dŵr Cymru; adalwyd 8 Mehefin 2024