Lilian Welsh
Lilian Welsh | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mawrth 1858 Columbia |
Bu farw | 23 Chwefror 1938 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, athro cadeiriol, ysgrifennydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland |
Ffeminist o Americanaidd oedd Lilian Welsh (6 Mawrth 1858 - 23 Chwefror 1938) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel meddyg, athro prifysgol, ysgrifennydd, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Ganed Welsh yn Columbia, Pennsylvania ar 6 Mawrth, 1858 i Annie Eunice (g. Young) o Wrightsville a Thomas Welsh o Columbia. Hi oedd y pedwerydd plentyn (a 4edd merch) yn ei theulu. Roedd ei thad wedi gwasanaethu yn y Rhyfel Mecsicanaidd-Americanaidd cyn dod yn berchennog ar gwch camlas.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Millersville, Pennsylvania, Coleg Meddygol Woman of Pennsylvania a Phrifysgol Zurich. Bwriad gwreiddiol Welsh oedd dod yn athro prifysgol mewn cemeg ffisiolegol, a mynd i Brifysgol Zurich o 1889–1890 i baratoi ar gyfer hyn. Yn Zurich, cymerodd gwrs cyntaf y Brifysgol ar yr astudiaeth o facteria, gyda'i ffrind Mary Sherwood.[1]
Yn 1935, dychwelodd i gartref ei theulu yn Columbia, Pennsylvania ar ôl marwolaeth Mary Sherwood, ei chyfaill oes.
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Gymdeithas America dros yr Hawl i Ferched Bleidleisio am rai blynyddoedd. Roedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Genedlaethol Menywod America, gan gymryd rhan mewn nifer o orymdeithiau stryd a chynorthwyodd i baratoi ar gyfer confensiwn 1906. [2]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland (2017)[3] .