Lammasu
Gwedd
Ym mytholeg Mesopotamia, mae'r Lammasu yn greadur chwedlonol a ganddo ben dynol, corff tarw ac adennau eryr. Roeddent yn gwarchod y temlau - dau ohonynt gyda'i gilydd fel rheol - ac yn lladd pawb a ddeuai'n agos, ac eithrio pobl hollol dda neu rai hollol ddrwg, y rhai a oedd y tu hwnt i'w gallu.
Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Ymddengys nad oes cysylltiad â'r Lamashtu, creadur dieflig a ymosodai ar wragedd feichiog a phlant.[1]
-
Cerflun yn Amgueddfa Pergamom, Berlin
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ H. W. F. Saggs, The Babylonians (Llundain, 1962; argraffiad newydd 1988, Thames & Hudson), tud. 237.