[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Oliver Stone

Oddi ar Wicipedia
Oliver Stone
GanwydWilliam Oliver Stone Edit this on Wikidata
15 Medi 1946 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylManhattan, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gelf Tisch, UDA
  • Trinity School
  • The Hill School
  • Prifysgol Yale
  • Saybrook College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor, cynhyrchydd ffilm, dogfennwr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1996 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGina Montana Edit this on Wikidata
Taldra6 troedfedd Edit this on Wikidata
MamJacqueline Goddet Edit this on Wikidata
PriodSun-jung Jung, Elizabeth Burkit Cox, Najwa Sarkis Edit this on Wikidata
PlantSean Stone Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Seren Efydd, Calon Borffor, Gwobr Urdd Awduron America, Commandeur de l'ordre du Ouissam alaouite, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Donostia, Medal Aer, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Vietnam Service Medal, Vietnam Campaign Medal, Combat Infantryman Badge, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Commendation Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Golden Globes, Silver Bear, Yr Arth Aur, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director, Officier des Arts et des Lettres‎, Sitges Grand Honorary Award, Ordre des Arts et des Lettres, Gwobrau'r Academi, Gwobr Uwch Reithgor Gŵyl Ffilm Fenis, Jupiter Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.oliverstone.com Edit this on Wikidata
llofnod

Mae William Oliver Stone (ganed 15 Medi 1946) yn gyfarwyddwr a sgriptiwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau. Daeth Stone yn enwog fel cyfarwyddwr gyda chyfres o ffilmiau am Ryfel Fietnam, rhyfel yr oedd ef ei hun wedi cymryd rhan ynddo fel milwr. Mae Stone yn parhau i weithio ar faterion gwleidyddol a diwylliannol cyfoes, ac yn aml ystyrir ei weithiau fel rhai dadleuol. Enillodd dair o Wobrau'r Academi, y cyntaf am ei sgript ar gyfer Midnight Express (1978). Enillodd Wobrau'r Academi hefyd am gyfarwyddo Platoon (1986) a Born on the Fourth of July (1989), gyda'r ddwy ffilm yn sôn am Ryfel Fietnam.

Nodwedd amlwg o'r arddull gyfarwyddo yw ei ddefnydd o gamerau a fformatau ffilm gwahanol, o VHS o ffilm 70mm. Weithiau, defnyddia nifer o fformatau gwahanol yn yr un olygfa, fel a welwyd yn JFK (1991) a Natural Born Killers (1994). Yn aml, beirniedir ffilmiau Stone am hyrwyddo damcaniaethau cynllwynion a diffyg cywirdeb hanesyddol. Yn ogystal, beirniadwyd y ffilm "Natural Born Killers" am glodfori trais; fodd bynnag, dadleua Stone fod y ffilm yn dychanu diddordeb y cyfryngau mewn darlunio trais.

Ffilmograffiaeth

[golygu | golygu cod]

Fel cyfarwyddwr

[golygu | golygu cod]

Gweithiau eraill

[golygu | golygu cod]
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.