Jawa
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 160,293,748 |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Gorllewin Indonesia |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Sunda Fawr |
Lleoliad | Y Môr Java |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 128,297 km² |
Uwch y môr | 3,676 metr |
Gerllaw | Cefnfor India, Y Môr Java, Bali Strait, Culfor Sunda, Madura Strait |
Cyfesurynnau | 7.4917°S 110.0044°E |
Hyd | 1,062 cilometr |
Mae Jawa[1] (weithiau Jafa) yn un o ynysoedd Indonesia. Mae'n ynys weddol fawr, 132,000 cilometr sgwâr, a hi yw'r fwyaf poblog o ynysoedd y byd, gyda 114 miliwn o drigolion.
Rhennir Jafa yn bedair talaith, un ardal arbennig (daerah istimewa), ac ardal y brifddinas, Jakarta:
- Banten
- Jakarta
- Jawa Barat (Gorllewin Jawa)
- Jawa Tengah (Canolbarth Jawa)
- Jawa Timur (Dwyrain Jawa)
- Yogyakarta (ardal arbennig)
Mae Jawa'n un o gadwyn o ynysoedd, gyda Sumatra i'r gogledd-orllewin a Bali i'r dwyrain. I'r gogledd-ddwyrain mae ynys Borneo. Mae Jafa yn ardal folcanig, gyda nifer o losgfynyddoedd, ac oherwydd hyn mae'r tir yn ffrwythlon iawn.
Ar Jawa mae prifddinas Indonesia, Jakarta. Mae nifer o ddinasoedd mawr eraill, yn cynnwys Surabaya, Bandung a Semarang. Ymhlith nodweddion diddorol yr ynys mae teml Fwdhaidd Borobudur a theml Hindwaidd Prambanan. Siaredir Jafaneg yn y canolbarth a'r dwyrain, a Swndaneg yn y gorllewin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 104.