[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

John Osborne

Oddi ar Wicipedia
John Osborne
GanwydJohn James Osborne Edit this on Wikidata
12 Rhagfyr 1929 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw24 Rhagfyr 1994 Edit this on Wikidata
Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, dramodydd, sgriptiwr, llenor, actor ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLook Back in Anger, Inadmissible Evidence Edit this on Wikidata
PriodMary Ure, Penelope Gilliatt, Jill Bennett Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, PEN/Ackerley Prize Edit this on Wikidata

Dramodydd, sgriptiwr ac actor Seisnig oedd John James Osborne (12 Rhagfyr 192924 Rhagfyr 1994). Ystyrir ef fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol ym myd y theatr ôl-ryfel.[1][2][3] Yn enedigol o Lundain, bu gweithio am gyfnod fel newyddiadurwr[4] cyn dechrau fel rheolwr llwyfan ac actor yn y theatr.[5] Bu’n byw mewn tlodi am nifer o flynyddoedd cyn i’w drydedd ddrama gael ei llwyfannu sef Look Back in Anger (1956), a ddaeth ag enwogrwydd cenedlaethol iddo.[6]

Yn seiliedig ar berthynas gyfnewidiol Osborne â'i wraig gyntaf, Pamela Lane, fe ystyrir Look Back in Anger fel y ddrama "kitchen sink realism" cyntaf.[7][8] Tyfodd mudiad a wnaeth ddefnydd o "realaeth sinc y gegin", gan ei gyplysu â realaeth gymdeithasol er mwyn trafod dadrithiad y gymdeithas Brydeinig, ym mlynyddoedd olaf yr Ymerodraeth.[9] Daeth yr ymadrodd “dynion ifanc dig” ["angry young man / men"] a fathwyd gan George Fearon i ddisgrifio Osborne wrth hyrwyddo’r ddrama, i ymgorffori’r awduron dosbarth gweithiol, asgell chwith yn bennaf o fewn y mudiad hwn. Ystyriwyd Osborne fel y ffigwr blaenllaw [10] oherwydd ei wleidyddiaeth asgell chwith, ddadleuol,[11][12] er i feirniaid nodi trywydd ceidwadol yn ei ysgrifennu cynnar.[13]

Cafodd The Entertainer (1957), Luther (1961), ac Inadmissable Evidence (1964) dderbyniad da hefyd,[14] gyda Luther yn ennill Gwobr Tony 1964 am y Ddrama Orau,[15] er bod y derbyniad i'w ddramâu diweddarach yn llai ffafriol. [16] Yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd Osborne ysgrifennu ac actio ar gyfer y teledu[8] ac ymddangos mewn ffilmiau. Mae'n fwyaf cofiadwy fel y pennaeth troseddol Cyril Kinnear yn Get Carter (1971).[17]

Ym 1958, ymunodd Osborne â chyfarwyddwr Look Back in Anger, Tony Richardson a’r cynhyrchydd ffilm Harry Saltzman i ffurfio Woodfall Film Productions, er mwyn cynhyrchu addasiad ffilm Richardson o Look Back in Anger ym 1959 a gweithiau eraill o realaeth sinc y gegin, gan arwain y Don Brydeinig Newydd [British New Wave]. Gwelwyd addasiadau gan Osborne ei hun o The Entertainer (1960) (a gyd-ysgrifennwyd gyda Nigel Kneale ), ac Inadmissible Evidence (1968), yn ogystal â’r gomedi gyfnod Tom Jones (1963), a enillodd Wobr yr Academi am yr Addasiad Sgript Orau[18] a Gwobr BAFTA am y Sgript Orau ym Mhrydain.[19]

Bu Osborne yn briod bum gwaith, ond cafodd y pedwar cyntaf eu poenydio gan gyhuddiadau o gamdriniaeth. Ym 1978 priododd Helen Dawson, ac o 1986 buont yn byw yng nghefn gwlad Swydd Amwythig.[20] Ysgrifennodd ddwy gyfrol hunangofiannol, A Better Class of Person (1981) ac Almost a Gentleman (1991), a chyhoeddwyd gasgliad o'i waith ffeithiol, Damn You, England, ym 1994.[21] Bu farw o gymhlethdodau diabetes ar 24 Rhagfyr 1994 yn 65 oed.[22]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed Osborne ar 12 Rhagfyr 1929[23] yn Llundain, yn fab i Thomas Godfrey Osborne, arlunydd masnachol a lluniwr hysbysebion o dras Gymreig, a Nellie Beatrice Grove, barforwyn Cockney.[24]

Ym 1936 symudodd y teulu i faestref gogledd Surrey yn Stoneleigh, lle'r oedd mam Thomas eisoes wedi ymgartrefu.[25][26] Byddai Osborne, fodd bynnag, yn ei ystyried fel anialwch diwylliannol a datganodd ffrind ysgol yn ddiweddarach ei fod "yn meddwl [ein bod ni] yn llawer o bobl ddiflas, anniddorol." [27] Roedd yn caru ei dad ond yn casáu ei fam, a ddisgrifiodd fel dynes "ragrithiol, hunan-amsugnol a dichellgar wahanol"[28]

Bu farw Thomas Osborne ym 1940, gan adael i'r bachgen ieuanc swm o arian o'r setliad ysweiriol a ddefnyddiodd i dalu am addysg breifat yng Ngholeg Belmont, ysgol fonedd yn Barnstaple, Dyfnaint.[29] Ymunodd â'r ysgol ym 1943, ond diarddelwyd ef yn nhymor yr haf 1945.[30] Honnodd Osborne mai am daro'r prifathro oedd hyn, am fod yntau wedi'i daro am wrando ar ddarllediad gan Frank Sinatra, ond haerodd cyn-ddisgybl arall fod Osborne wedi ei ddal yn ymladd gyda disgyblion eraill.[31][32] Tystysgrif Ysgol oedd yr unig gymhwyster ffurfiol a enillodd.

Wedi ymadael â'r ysgol, aeth Osborne adref at ei fam yn Llundain a rhoi cynnig byr ar newyddiaduraeth fasnach.[4] Cafodd waith fel tiwtor i gwmni teithiol o actorion iau, a dyna sut y daeth i fyd y theatr. Yn fuan wedyn, daeth yn reolwr llwyfan ac actor ac ymunodd â chwmni teithiol taleithiol Anthony Creighton.[5] Ceisiodd Osborne ysgrifennu dramâu, gan gyd-ysgrifennu ei gyntaf, The Devil Inside Him, gyda’i fentor Stella Linden, a’i cyfarwyddodd yn y Theatr Frenhinol Huddersfield ym 1950. Ym Mehefin 1951 priododd Osborne â Pamela Lane.[33] Ysgrifennodd ei ail ddrama, Personal Enemy , gydag Anthony Creighton, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd Epitaph for George Dillon, a lwyfannwyd yn y Royal Court ym 1958 . Llwyfannwyd Personal Enemy mewn theatrau rhanbarthol cyn iddo gyflwyno Look Back in Anger.[34]

Look Back in Anger

[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd Look Back in Anger mewn 17 diwrnod tra'n eistedd mewn cadair ar bier Morecambe lle roedd Osborne yn perfformio yn nrama Hugh Hastings Seagulls over Sorrento. Hunangofiannol yw drama Osborne, [35][36] yn seiliedig ar ei amser yn byw, ac yn dadlau, gyda Pamela Lane mewn llety cyfyng yn Derby, tra'r oedd yn cael affêr gyda deintydd lleol. [37] Cyflwynodd y sgript i nifer o asiantau yn Llundain, a'i gwrthododd. Yn ei hunangofiant, mae Osborne yn nodi: "Nid oedd cyflymder ei ddychwelyd yn syndod, ond rhoddodd ei anfon ymosodol rhyw fath o ryddhad dryslyd i mi".[38] Yn olaf fe'i hanfonwyd i'r English Stage Company newydd yn y Royal Court Theatre yn Llundain.[39]

Wedi'i ffurfio gan yr actor-reolwr a'r cyfarwyddwr artistig George Devine, roedd dau gynhyrchiad cyntaf y cwmni wedi bod yn siom.[40] [41] Roedd Devine yn barod i gymryd siawns ar y ddrama newydd hon, gan weld bod ynddi fynegiant pwerus o ysbryd newydd ar ôl y rhyfel. [42][43] Roedd Osborne yn byw ar gwch preswyl ar yr Afon Tafwys, gyda Creighton[44] ar y pryd, ac yn bwyta danadl poethion wedi'u stiwio o lan yr afon.[45] Pan dderbyniodd Devine y ddrama, bu'n rhaid iddo rwyfo allan i'r cwch preswyl i siarad ag Osborne.[46] [47] Cyfarwyddwyd y ddrama gan Tony Richardson ac roedd Kenneth Haigh, Mary Ure ac Alan Bates yn serennu. [48] Defnyddiodd George Fearon, swyddog y wasg yn y theatr, yr ymadrodd “angry young man” [dynion ifanc dig] wrth hyrwyddo Look Back in Anger . Dywedodd wrth Osborne nad oedd yn hoffi'r ddrama a'i fod yn ofni y byddai'n amhosib ei marchnata.[49]

Roedd adolygiadau o Look Back in Anger yn gymysg: roedd y rhan fwyaf o'r beirniaid a fynychodd y noson gyntaf yn teimlo ei fod yn fethiant.[50] Fodd bynnag, fe wnaeth adolygiadau cadarnhaol gan Kenneth Tynan a Harold Hobson, ynghyd â darllediad teledu o Act 2, helpu i greu diddordeb, a throsglwyddwyd y ddrama'n llwyddiannus i Theatr y Lyric (Hammersmith) ac i Broadway, gan deithio i Moscow yn ddiweddarach.[51][52] Rhyddhawyd fersiwn ffilm ym mis Mai 1959 gyda Richard Burton a Mary Ure yn y prif rannau.[53] Daeth y ddrama ag enwogrwydd i Osborne [54] ac enillodd Wobr Ddrama'r Evening Standard fel dramodydd mwyaf addawol 1956. [55]

Yn ystod y cynhyrchiad dechreuodd yr Osborne priod, berthynas ag (Eileen) Mary Ure, a byddai'n ysgaru ei wraig, Pamela Lane, i briodi Ure ym 1957.[56] Bu farw Ure ym 1975.[57]

Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan John Gwilym Jones o dan y teitl Cilwg yn Ôl.

The Entertainer ac ymlaen i'r 1960au

[golygu | golygu cod]
Osborne gan yr artist Gwyddelig Reginald Gray, Llundain (1957)

Pan welodd Laurence Olivier Look Back in Anger am y tro cyntaf, roedd ei farn yn eithaf negyddol.[58][59] Ar y pryd, roedd Olivier yn gwneud ffilm o The Prince and the Showgirl gan Rattigan gyda Marilyn Monroe yn cyd-serennu, ac roedd ei gŵr Arthur Miller gyda hi yn Llundain. Gofynnodd Olivier i'r dramodydd Americanaidd pa ddramâu yr hoffai eu gweld yn Llundain. Yn seiliedig ar ei deitl, awgrymodd Miller waith Osborne; Ceisiodd Olivier ei ddarbwyllo, ond roedd y dramodydd yn frwd a gwelodd y ddau'r cynhyrchiad gyda'i gilydd. [58]

Credai Miller bod y ddrama yn ddadlennol, ac fe aethon nhw gefn llwyfan i gwrdd ag Osborne. Creodd ymateb yr Americanwr argraff ar Olivier a gofynnodd i Osborne am ran yn ei ddrama nesaf. Anfonodd George Devine, cyfarwyddwr artistig y Royal Court, sgript anghyflawn The Entertainer i Olivier. Cymerodd yntau'r brif ran fel y perfformiwr neuadd gerddoriaeth Archie Rice, gan ei bortreadu'n llwyddiannus yn y Royal Court ac yn y West End. [58]

Defnyddia The Entertainer drosiad o ddyddiau olaf y neuadd gerdd a chychwyn oes gynnar roc a rôl i sylwebu ar ddirywiad dylanwad yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd dylanwad cynyddol yr Unol Daleithiau, fel a welwyd yn ystod Argyfwng Suez ym mis Tachwedd 1956, yn gefndir pwysig i'r ddrama, a dderbyniodd ganmoliaeth feirniadol.[14]

The World of Paul Slickey (1959) oedd ei ddrama nesaf, neu sioe gerdd sy’n dychanu’r wasg tabloid.[60] Dilynwyd hynny gan ddrama ddogfen ar y teledu A Subject of Scandal and Concern (1960);[61][17] a'r bil dwbl Plays for England, yn cynnwys The Blood of the Bambergs ac Under Plain Cover (1962).[62]

Llwyfannwyd Luther, sy'n darlunio bywyd Martin Luther, am y tro cyntaf ym 1961; trosglwyddodd i Broadway ac enillodd Osborne Wobr Tony.[63][64] Perfformiwyd Inadmissible Evidence gyntaf ym 1964.[63] Rhwng y dramâu hyn, enillodd Osborne Oscar am ei addasiad sgript o Tom Jones ym 1963.[18] Mae ei ddrama A Patriot for Me (1965) yn ymdrin ag achos Redl o Awstria, sy'n ymwneud â themâu o gyfunrywioldeb ac ysbïo, a bu'n gymorth i roi terfyn ar y system o sensoriaeth theatrig o dan yr Arglwydd Chamberlain.[65]

Enillodd A Patriot For Me a The Hotel in Amsterdam (1968) wobrau Drama Orau'r Flwyddyn yr Evening Standard.[66] Mae The Hotel in Amsterdam yn cynnwys tri chwpl showbiz mewn gwesty moethus, ar ôl ffoi o afael cynhyrchydd ffilmiau gormesol, y cyfeirir ato fel "KL"[67] Mae cofiannydd Osborne, John Heilpern, yn honni bod "KL" i fod i gynrychioli'r cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Tony Richardson.[68]

1970au a bywyd diweddarach

[golygu | golygu cod]

Ymhlith dramâu John Osborne yn y 1970au, roedd West of Suez, gyda Ralph Richardson (1975), The End of Me Old Cigar; a Watch It Come Down, gyda Frank Finlay yn serennu.[69] Ysgrifennodd yr hanesydd theatr Phyllis Hartnoll fod gwaith Osborne o’r cyfnod hwn “wedi methu â gwella ei enw da”: roedd ei gyd-ddramodydd Alan Bennett yn cofio “cywilydd rhewllyd” ym première Watch It Come Down, er i Richard Ellmann, wrth adolygu perfformiad cynnar, sylwi ar y gynulleidfa yn chwerthin yn anfwriadol.[70][16][71]

Efallai mai ei waith a dderbyniodd yr ymateb mwyaf eithafol yn y cyfnod hwn, oedd A Sense of Detachment (1972), heb ddim plot, ac yn cynnwys golygfa lle mae gwraig oedrannus yn darllen yn helaeth o gatalog pornograffig eithafol. Mae rhan o’r ddrama’n cynnwys actorion sydd wedi'u cuddio yn y gynulleidfa, ac yn smalio protestio, ond ar ôl i hyn gychwyn yn y theatr, fe sbardunodd eraill i ymuno. Parodd hyn i'r actores Rachel Kempson neidio i ganol y gynulleidfa, ac ymosod ar y rhai oedd yn creu helynt mewn digwyddiad a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd. Dywedodd adolygiad y Financial Times, "Siawns na hyn fydd diwedd ar ei yrfa yn y theatr".[70] [16][72]

Yn ystod y degawd hwnnw actiodd Osborne ran y gangster Cyril Kinnear yn Get Carter (1971).[17][73] Yn ddiweddarach, ymddangosodd yn Tomorrow Never Comes (1978) a Flash Gordon (1980).[73]

Roedd delwedd gyhoeddus ddiweddarach Osborne yn wahanol i'w bersona o 'ddyn ifanc dig' yn y 1950au. O 1986, bu'n byw mewn bwthyn yng nghefn gwlad Swydd Amwythig.[20] Yr oedd ei fywyd yn ymdebygu'n fwyfwy i fywyd gŵr bonheddig hen ffasiwn. [74] Ysgrifennodd ddyddiadur i'r cylchgrawn Prydeinig ceidwadol The Spectator, cyhoeddiad y bu'n ddirmygus ohono pan yn ifanc.[75] [76] Cododd arian i do’r eglwys leol drwy agor ei ardd i’r cyhoedd, a bygythiodd atal yr arian os nad gytunai'r ficer i adfer y Llyfr Gweddi Gyffredin (roedd Osborne wedi dychwelyd i Eglwys Loegr tua 1974).[77] Mae Ferdinand Mount yn gwrthgyferbynnu’r ymroddiad hwn i ddefod Anglicanaidd ac agoriad Look Back in Anger, gyda Jimmy Porter yn gresynu yn erbyn sŵn clychau’r eglwys.[78]

Yn ystod dau ddegawd olaf ei fywyd cyhoeddodd Osborne ddwy gyfrol o hunangofiant, A Better Class of Person (1981) ac Almost a Gentleman (1991). Wrth adolygu'r cyntaf o'r llyfrau hyn, ysgrifennodd Alan Bennett, "Mae'n hynod bleserus, ac wedi'i ysgrifennu'n frwd ac mae Osborne wedi cael gwell adolygiadau amdani nag ar gyfer unrhyw un o'i ddramâu ers Inadmissible Evidence." [16] Ffilmiwyd A Better Class of Person gan Deledu Thames ym 1985, gyda Eileen Atkins ac Alan Howard fel ei rieni, a Gary Capelin a Neil McPherson fel Osborne.[79] Fe'i henwebwyd ar gyfer y Prix Italia.

Drama olaf Osborne oedd Déjàvu (1992), dilyniant i Look Back in Anger. Ymddangosodd amryw o'i ysgrifau i bapurau newydd a chylchgronau mewn casgliad o'r enw Damn You, England (1994),[21] tra ailgyhoeddwyd ei ddwy gyfrol hunangofiannol fel Looking Back – Never explain, Never Apologize (1999).[78]

Dylanwad

[golygu | golygu cod]

Trawsnewidiodd gwaith Osborne y theatr Brydeinig.[80] Rhoddodd gymorth i waith theatr gael ei barchu’n artistig eto, gan daflu heibio gyfyngiadau ffurfiol y genhedlaeth flaenorol, a throi sylw’r cyhoedd at iaith, rhethreg theatrig, a dwyster emosiynol. Yn ddyn ifanc penderfynodd bod hi'n "ddyletswydd arno i gicio yn erbyn y cociau ŵyn [pricks]";[81] gwelodd theatr fel arf y gallai pobl gyffredin ei hawlio i chwalu hualau'r dosbarthiadau cymdeithasol. Roedd am i'w ddramâu fod yn atgof o bleserau pur a phoenau go iawn. Dywedodd David Hare yn ei anerchiad coffa:

John Osborne devoted his life to trying to forge some sort of connection between the acuteness of his mind and the extraordinary power of his heart.[82]

Newidiodd Osborne fyd y theatr, gan ddylanwadu ar ddramodwyr fel Edward Albee a Mike Leigh. Ym 1992 dyfarnwyd Gwobr Llwyddiant Oes iddo gan Urdd Awduron Prydain Fawr.[20][83]

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Title Type Year
The Devil Inside Him Theatr 1950
The Great Bear Theatr 1951
Personal Enemy Theatr 1955
Look Back in Anger Theatr 1956
The Entertainer Theatr 1957
Epitaph for George Dillon Theatr 1958
The World Of Paul Slickey Theatr 1959
A Subject of Scandal and Concern Teledu 1960
Luther Theatr 1961
The Blood of the Bambergs Theatr 1962
Under Plain Cover Theatr 1962
Tom Jones Sgript ffilm 1963
Inadmissible Evidence Theatr 1964
A Patriot for Me Theatr 1965
A Bond Honoured Theatr 1966
The Hotel in Amsterdam Theatr 1968
Time Present Theatr 1968
The Charge of the Light Brigade Sgript ffilm 1968
Inadmissible Evidence Sgript ffilm 1968
The Right Prospectus Teledu 1970
West of Suez Theatr 1971
A Sense of Detachment Theatr 1972
The Gift of Friendship Teledu 1972
Hedda Gabler Theatr 1972
A Place Calling Itself Rome Theatr 1973
Ms, Or Jill And Jack Teledu 1974
The End of Me Old Cigar Theatr 1975
The Picture Of Dorian Gray Theatr 1975
Almost A Vision Teledu 1976
Watch It Come Down Theatr 1976
Try A Little Tenderness Theatr 1978
Very Like A Whale Teledu 1980
You're Not Watching Me, Mummy Teledu 1980
A Better Class of Person Cyfrol 1981
A Better Class of Person Teledu 1985
God Rot Tunbridge Wells! Teledu 1985
The Father Theatr 1989
Almost a Gentleman Cyfrol 1991
Déjàvu Theatr 1992
England, My England Teledu 1995

Ffilmograffeg

[golygu | golygu cod]
Teitl Blwyddyn Rôl Nodiadau
First Love 1970 Maidanov
The Chairman's Wife 1971 Bernard Howe
Get Carter 1971 Cyril Kinnear
Tomorrow Never Comes 1978 Lyne
Flash Gordon 1980 Offeiriad Arboraidd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "OSBORNE, John (1929–1994)". English Heritage. 2021. Cyrchwyd 2024-05-27.
  2. "John Osborne - The man who turned anger into art". BBC Online. 2005-04-07. Cyrchwyd 2024-05-27.
  3. Billington, Michael (2014-12-24). "John Osborne: a natural dissenter who changed the face of British theatre". The Guardian. Cyrchwyd 2024-05-27.
  4. 4.0 4.1 Whitebrook 2015.
  5. 5.0 5.1 Heilpern 2006.
  6. "John Osborne | Biography & Look Back in Anger | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-12.
  7. "John Osborne". Encyclopedia Britannica. 2024-03-29. Cyrchwyd 2024-05-27.
  8. 8.0 8.1 "Osborne, John (1929-1994)". BFI Screen Online. Cyrchwyd 2024-05-27.
  9. Heilpern, pp. 93–102
  10. Gilleman, Luc (2008). "From Coward and Rattigan to Osborne: Or the Enduring Importance of Look Back in Anger". Modern Drama 51 (1): 104–124. doi:10.3138/md.51.1.104. https://archive.org/details/sim_modern-drama_spring-2008_51_1/page/104.
  11. Osborne 1981.
  12. Osborne 1991.
  13. Tynan, Kenneth (2007). Shellard, Dominic (gol.). Theatre Writings. London: Nick Hern Books. t. 169. ISBN 978-1-85459-050-3.
  14. 14.0 14.1 Richardson 1993.
  15. "Winners / 1964". Tony Awards. Cyrchwyd 2024-05-25.
  16. 16.0 16.1 16.2 16.3 Bennett, Alan (3 December 1981). "Bad John". London Review of Books. Cyrchwyd 23 March 2023.
  17. 17.0 17.1 17.2 Wake, Oliver. "Osborne, John (1929-1994)". Screenonline. Cyrchwyd 19 April 2023.
  18. 18.0 18.1 "The 36th Academy Awards | 1964". www.oscars.org (yn Saesneg). 5 October 2014. Cyrchwyd 2023-05-02.
  19. "Film in 1964". BAFTA. Cyrchwyd 2024-05-25.
  20. 20.0 20.1 20.2 Schmidt, William E. (27 December 1994). "John Osborne, British Playwright, Dies at 65". The New York Times. Cyrchwyd 25 March 2023.
  21. 21.0 21.1 Taylor, Paul (23 April 1994). "Betes noires in steaming herds". The Independent. Cyrchwyd 28 April 2023.
  22. Heilpern 2006
  23. Heilpern 2006, t. 23.
  24. Heilpern 2006, t. 24.
  25. Osborne 1981.
  26. Whitebrook 2015, t. 14.
  27. Schoolfriend Hilda Berrington, speaking on Osborne: Angry Man, Channel Four.
  28. Tuohy, William (27 December 1994). "John Osborne; Playwright Wrote 'Look Back in Anger'". The Los Angeles Times. Cyrchwyd 25 March 2024.
  29. Heilpern 2006.
  30. Whitebrook 2015.
  31. Osborne 1981.
  32. Whitebrook 2015.
  33. John Heilpern (21 November 2010). "Pamela Lane [1930-2010] obituary". The Guardian. Cyrchwyd 19 April 2018. Stalwart of British theatre and first wife of John Osborne
  34. Heilpern 2006.
  35. Heilpern pp. 114–119: "Look Back in Anger was based on the breakdown of Osborne's marriage to Lane".
  36. Sierz, Aleks (31 March 2018). "First wife, enduring love: the passionate affair of John Osborne and Pamela Lane". Spectator | Australia. Cyrchwyd 29 April 2023.
  37. Osborne 1991; Heilpern 2006.
  38. Osborne 1991.
  39. Wardle 1978.
  40. Wardle 1978.
  41. Richardson 1993.
  42. Wardle 1978.
  43. Richardson 1993.
  44. "Writers Trail". Chiswick Book Festival. 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 June 2021. Cyrchwyd 10 August 2021.
  45. Osborne 1991.
  46. Osborne 1981.
  47. Richardson 1993.
  48. Richardson 1993.
  49. Little & McLaughlin 2007.
  50. Richardson 1993.
  51. Osborne 1957.
  52. Richardson 1993.
  53. Whitebrook 2015.
  54. The mini-biography of Osborne in Declaration states, "In 1956, with the Royal Court Theatre production of this play [Look Back in Anger], he became famous overnight" (Osborne 1957).
  55. Dex, Robert (8 May 2021). "Blue Plaque for Hammersmith home of Look Back in Anger playwright John Osborne". Evening Standard. Cyrchwyd 7 April 2023.
  56. Heilpern 2006.
  57. Heilpern 2006.
  58. 58.0 58.1 58.2 Heilpern, John (6 March 2007). "'It's me, isn't it?'". The Guardian. Cyrchwyd 28 April 2023.
  59. Richardson 1993.
  60. Peter Whitebrook (25 November 2015). "John Osborne: New biography records the day the Look Back in Anger playwright was chased by an angry mob". The Independent. Cyrchwyd 3 April 2023.
  61. Richardson 1993.
  62. Wardle 1978.
  63. 63.0 63.1 Billington, Michael (24 December 2014). "John Osborne: a natural dissenter who changed the face of British theatre". The Guardian. Cyrchwyd 3 April 2023.
  64. "Vitriolic British Playwright John Osborne Dies". Washington Post. 27 December 1994. Cyrchwyd 15 April 2023.
  65. Shellard, Dominic; Nicholson, Steve; Handley, Miriam (2004). The Lord Chamberlain Regrets: A History of British Theatre Censorship. London: British Library. tt. 163–74. ISBN 0-7123-4865-4.
  66. Whitebrook 2015.
  67. Billington, Michael (18 September 2003). "Review: The Hotel in Amsterdam". The Guardian. Cyrchwyd 28 April 2023.
  68. Heilpern 2006.
  69. Heilpern 2006, tt. 382-83.
  70. 70.0 70.1 Hartnoll, Phyllis (1993). The Concise Oxford Companion to the Theatre. Oxford: Oxford University Press. t. 363. ISBN 978-0-192-82574-2.
  71. Ellmann, Richard (21 March 1976). "Osborne's Latest — Slang, Bash, Fizzle". The New York Times. Cyrchwyd 23 March 2023.
  72. John Heilpern (29 April 2006). "A sense of failure". The Guardian. London. Cyrchwyd 7 May 2010.
  73. 73.0 73.1 "Osborne, John (1929-1994): Film and TV Credits | Screenonline". www.screenonline.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-19.
  74. Heilpern p.1
  75. Times obituary, 27 December 1994
  76. Osborne 1957.
  77. Heilpern 2006
  78. 78.0 78.1 Mount, Ferdinand (6 May 2006). "Looking back in judgment". The Spectator. London. Cyrchwyd 23 March 2023.
  79. O'Connor, John J. (25 March 1987). "TV Reviews; 'Better Class of Person by John Osborne, on 13". New York Times. Cyrchwyd 7 April 2023.
  80. Heilpern p.xv
  81. Osborne 1981.
  82. Heilpern 2006, t. 477
  83. "History of the Writers' Guild Awards". WGGB: The Writers' Union. Cyrchwyd 2023-03-25.

 

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]