John Dafydd
Gwedd
John Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 1727 Sir Gaerfyrddin |
Bu farw | 1783 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | emynydd, crydd |
Blodeuodd | 1747 |
Emynydd Cymraeg o Sir Gaerfyrddin yn y 18g oedd John Dafydd (1727 - 1783). Roedd ei frawd Morgan Dafydd (m. 1762) yn emynydd o fri hefyd.
Fel ei frawd, crydd oedd John Dafydd. Treuliodd ran gyntaf ei oes ym Medw-gleision, Caeo, lle roedd yn aelod o'r Eglwys Fedyddiol. Symudodd wedyn i fyw yn Nhir-y-bedw ym mhlwyf Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin.
Ceir bump o emynau John Dafydd yn y gyfrol Aleluia (1747) gan William Williams Pantycelyn ac erys ei emyn 'Newyddion braf a ddaeth i'n bro' yn boblogaidd heddiw.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]