Joan Baker
Joan Baker | |
---|---|
Ganwyd | 1922 Caerdydd |
Bu farw | 7 Ebrill 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arlunydd a darlithydd celf o Gymru oedd Joan Elizabeth Baker (1922 – 7 Ebrill 2017).[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd mewn tŷ ger Parc Fictoria, Caerdydd.[3] Ei mam oedd Mary (nee Harrison) a'i thad oedd Joseph Baker, peiriannydd morol. Aeth i ysgol ferched Howell's yn Llandaf.[4]
Yn 16 oed derbyniodd ysgoloriaeth i astudio yn Ysgol Gelf Caerdydd ac fe'i addysgwyd gan yr artist Cymreig Ceri Richards. Aeth hithau ymlaen i ddysgu yn yr ysgol. Hi oedd y fenyw gyntaf i redeg prif adran gelf yng Nghymru gan ddod yn bennaeth sylfaen a dirprwy gyfarwyddwr astudiaethau yn yr Ysgol Gelf (ail-enwyd yr ysgol yn Goleg Celf Caerdydd yn 1949 ac erbyn hyn mae'n ran o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd). Fe ymddeolodd o'r Coleg yn 1984. Prif bwnc ei gwaith arlunio oedd tirluniau o Gaerdydd ac ardaloedd cyfagos yn ne Cymru.
Bu farw ei thad yn 1954 drwy foddi, yn dilyn damwain yn nociau Caerdydd. Gofalodd am ei mam hyd ei marwolaeth hithau yn 1976.
Bu farw yn yr un tŷ lle bu'n byw drwy gydol ei hoes, yn edrych dros Barc Fictoria.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Marw’r artist, Joan Baker, yn 94 oed , Golwg360, 26 Ebrill 2017. Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2017.
- ↑ (Saesneg) BAKER Joan : Obituary. bmdsonline.co.uk. Adalwyd ar 30 Ebrill 2017.
- ↑ Joan Baker set for first solo show in 65 years (en) , WalesOnline, 4 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2017.
- ↑ 4.0 4.1 Joan Baker obituary (en) , guardian.co.uk, 25 Ebrill 2017. Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2017.