Ioan Kidd
Gwedd
Ioan Kidd | |
---|---|
Geni | Ioan Kidd 4 Mehefin 1954 Castell-nedd, Cymru |
Galwedigaeth | Nofelydd, cyfieithydd |
Math o lên | Nofelau a straeon byrion |
Gwaith nodedig | Dewis |
Gwobrau nodedig | Llyfr y Flwyddyn 2014, Barn y Bobl 2014 |
Awdur a chyfieithydd yw Ioan Kidd (ganwyd 4 Mehefin 1954). Yn enedigol o Gwmafan yng Ngorllewin Morgannwg, mae e'n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan cyn symud i'r brifddinas lle bu'n gweithio mewn nifer o feysydd ond yn bennaf ym maes darlledu. Gweithiodd i BBC Cymru am ryw ugain mlynedd, yn yr Adran Newyddion a'r Adran Addysg. Fe oedd golygydd cyntaf Ffeil, sef y rhaglen newyddion i blant a phobl ifanc a ddarlledir ar S4C.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]- 2014 - Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Dewis
- 2014 - Gwobr Barn y Bobl am Dewis
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau Oedolion
[golygu | golygu cod]- Cawod o Haul (Gwasg Gomer, 1977) - nofel
- O'r Cyrion (Gwasg Gomer, 2006; ailargraffiad 2009) - straeon byrion
- Un o Ble Wyt Ti? (Gwasg Gomer, 2011) - nofel
- Dewis (Gwasg Gomer, 2013; ailargraffiad 2014) - nofel; enillydd Llyfr y Flwyddyn 2014 a Barn y Bobl yr un flwyddyn
Llyfrau Plant
[golygu | golygu cod]- Craig y Lladron, Cyfres Cled (Gwasg Gomer, 1994)
- Mae'n Anodd Weithiau, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2009)
Addasiadau - Llyfrau Plant
[golygu | golygu cod]- Louis Sachar, Tyllau (Gwasg Gomer, 2007)
- Robert Munsch, Awyren Alys (Houdmont, 2016)
- Robert Munsch, Gwerth y Byd (Houdmont, 2016)
Ar y Cyd
[golygu | golygu cod]- Amddiffyn Fy Hun, gyda Mark Aizlewood (Gwasg Gomer, 2009)
- Tynnu Colur Toni Caroll, gyda Toni Caroll (Gwasg Gomer, 2015)