In-Q-Tel
Math | busnes |
---|---|
Math o fusnes | sefydliad di-elw |
Sefydlwyd | 1999 |
Pencadlys | Arlington County |
Gwefan | https://www.iqt.org/ |
Busnes buddsoddi cyfalafiad Americanaidd di-elw yw In-Q-Tel (IQT neu In-Q-It), a greuwyd yn wreiddiol fel Peleus, a sefydlwyd yn 1999 gan y CIA (Central Intelligence Agency) ac a reolir yn uniongyrchol gan yr asiantaeth honno. Lleolir ei bencadlys yn Arlington, Virginia, heb fod yn nepell o Washington D.C., prifddinas yr Unol Daleithiau.
Bwriad y cwmni yw archwilio ac ariannu busnesau sy'n creu technolegau masnachol arobryn gwreiddiol y gellir eu haddasu ar gyfer gwaith y gwasanaethau gwybodaeth gwladol yn UDA.
Ymhlith y busnesau a phrosiectau mae In-Q-Tel wedi buddsoddi ynddynt mae Convera (meddalwedd), Inxight (chwilio gwybodaeth arlein a chyfieithu), Tacit Software (meddlawedd), Attensity (cyfieithu), Nanosys (nanotechnoleg), Keyhole (Google Earth), a Palantir Technologies (gwybodaeth). Un o fentrau diweddaraf In-Q-Tel yw buddsoddiad sylweddol, gyda Google ac Amazon, yn y cwmni newydd Recorded Future, prosiect hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd.[1] Gwnaed y buddsoddiadau hyn yn 2009 ond ni ddatguddwyd y wybodaeth tan fis Gorffennaf 2010.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Google and CIA Plough Millions Into Huge ‘Recorded Future’ Monitoring Project" Archifwyd 2010-08-07 yn y Peiriant Wayback, Infowars.com.
- ↑ "Federal Computer Week". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-31. Cyrchwyd 2010-08-05.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan In-Q-Tel (Saesneg)
- "CIA, Google fund Web analysis firm" Archifwyd 2020-05-31 yn y Peiriant Wayback, erthygl ar wefan Federal Computer Week.