Hyperloop
Math | cludiant |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Hyperloop (Cymreigiad: hyperddolen) yn system drafnidiaeth gyflym arfaethedig ar gyfer y cyhoedd a chludo nwyddau. Cyhoeddwyd y syniad gyntaf gan y dyfeisydd Elon Musk mewn papur gwyn a ryddhawyd yn 2013, lle disgrifiwyd yr Hyperloop fel prosiect cludo a fyddai'n cynnwys capsiwlau a gefnogir gan aer-berynnau (air-bearings) mewn amgylchedd pwysedd-isel y tu mewn i diwb.[1] Mae gan systemau hyperloop dair elfen hanfodol: y tiwb ei hun, codennau sy'n gwibio o fewn y tiwb a therfynellau, sef math o orsafoedd.
Mae'r tiwb yn system pwysedd-isel (gwactod neu faciwm) enfawr, wedi'i selio ac ar ffurf twnnel hir. Mae'r pod neu goden yn gerbyd dan bwysau atmosfferig yn profi gwrthiant neu ffrithiant aer isel y tu mewn i'r tiwb[2] ac yn teithio dan yriant magnetig. Mae'r derfynell yn fan cychwyn ac yn fan gorffen y daith. Mae'r Hyperloop, yn y ffurf gychwynnol a gynigiwyd gan Musk, yn wahanol i vactrains gan eu bod yn dibynnu ar bwysedd aer gweddilliol y tu mewn i'r tiwb a fyddai'n codi'r goden gyda chymorth aeroffoils a gyriad gan wyntyll; ond mae llawer o'r amrywiadau dilynol yn debyg iawn i'r vagtrains traddodiadol.
Cafodd Hyperloop ei awgrymu gan Elon Musk yn 2012, a ddisgrifiwyd ganddo fel "y pumed dull o deithio".[3] Hyrwyddodd Musk y cysyniad ymhellach trwy gyhoeddi papur gwyn yn Awst 2013, papur a greodd am lwybr Hyperloop yn llifo o Los Angeles i Fae San Francisco, gan fwy neu lai dilyn coridor yr Interstate 5. Roedd y cysyniad cychwynnol yn cynnwys tiwbiau gyda llai o bwysedd, lle mae capsiwlau neu gerbydau dan bwysau'n symud ar berynnau aer (air bearings) sy'n cael eu gyrru gan foduron llinol a chywasgwyr echelinol. Heriodd rhai dadansoddwyr trafnidiaeth yr amcangyfrifon cost a gynhwyswyd yn y papur gwyn, gyda rhai yn rhagweld y byddai Hyperloop gorwario dros biliwn o ddoleri i'w gwireddu.
Yn 2023, rhyddhaodd y Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Safoni Electrodechnegol y safon dechnegol gyntaf ar gyfer systemau hyperddolen.[4]
Theori a gweithredu
[golygu | golygu cod]Mae'r cysyniad o vactrain (Cymreigiad: gwacdren) yn debyg i system reilffordd gyflym mewn gwactod (faciwm), heb wrthiant aer sylweddol trwy ddefnyddio trenau sy'n codi mewn modd magnetig. Fodd bynnag, mae'r anhawster o gynnal gwactod dros bellteroedd mawr wedi atal y math hwn o system rhag cael ei hadeiladu hyd yma. Mewn cyferbyniad, mae Hyperloop yn gweithredu ar oddeutu 1 milibar (100 Pa) o bwysau ac mae angen yr aer i'r goden godi.
Mae nifer o lwybrau wedi'u cynnig ar gyfer systemau hyperddolen sy'n bodloni'r amodau pellter posib (pellteroedd o lai na tua 1,500 km (930 milltir).[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Hyperloop Is Hyper Old". IEEE Spectrum (yn Saesneg). 2021-11-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 2021-11-28.
- ↑ Opgenoord, Max M. J. "How does the aerodynamic design implement in hyperloop concept?". Mechanical Engineering. MIT - Massachusetts Institute of Technology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 October 2019. Cyrchwyd 16 September 2019.
- ↑ "Pando Monthly presents a fireside chat with Elon Musk". pando.com. PandoDaily. 13 July 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 July 2017. Cyrchwyd 15 July 2017.
- ↑ "CEN/CLC/JTC 20 - Hyperloop systems". CENELEC. 2023-01-18. Cyrchwyd 2023-09-26.
- ↑ Ranger, Steve. "What is Hyperloop? Everything you need to know about the race for super-fast travel". ZDNet (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 October 2020. Cyrchwyd 18 April 2020.