Hunaniaeth Gymreig
Hunaniaeth genedlaethol y Cymry yw hunaniaeth Gymreig. Ar ei ffurf symlaf mae'n golygu hunaniaeth bod yn un o'r Cymry a gwladgarwch tuag at Gymru, ond yn aml mae hefyd yn gysylltiedig â'r Gymraeg a chenedlaetholdeb Cymreig.
Yng Nghymru'r 21g, mae hunaniaeth Gymreig sifig wedi datblygu sydd yn seiliedig ar gyd-werthoedd sifig a chymryd rhan ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru.[1]
Effaith gan fewnfudwyr ar hunaniaeth
[golygu | golygu cod]O ganlyniad i fewnfudo ers canol yr 20g, o Loegr yn bennaf, nid yw holl drigolion Cymru yn arddel hunaniaeth Gymreig. Mae rhai ymfudwyr yn cymhathu'n ddiwylliannol, trwy ddysgu'r Gymraeg neu drwy ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Mae eraill yn glynu at eu hunaniaeth enedigol, neu yn uniaethu â diwylliannau lluosog. Mae nifer o ymfudwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn mabwysiadu hunaniaeth Brydeinig ond nid Cymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011, tua 2 miliwn o breswylwyr Cymru a nododd eu bod yn Gymry, ac o'r rhain nododd 218,000 eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd. Nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.[2] Ceir cydberthyniad cryf rhwng siaradwyr Cymraeg ac hunaniaeth Gymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 25.4% o’r rhai a ddywedodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn gallu siarad Cymraeg. O'r rhai a ystyriodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig, 20.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg. Dim ond 6% o'r rhai a ystyriodd fod eu hunaniaeth yn Seisnig yn unig a oedd yn gallu siarad Cymraeg.[3] Mae 21% o drigolion Cymru wedi eu geni yn Lloegr, a 13.8% o'r boblogaeth yn arddel hunaniaeth Seisnig. Meddai Gwyddoniadur Cymru: "Er bod llawer o'r mewnfudwyr hyn wedi ymgyfaddasu i fod, yng ngeiriau Gwyn A. Williams, yn 'Gymry Newydd' – pobl yn cymryd rhan ddeallus a gweithredol ym mywyd y wlad – mae eraill wedi tueddu i beidio ag ymwneud â'r diwylliant cynhenid, ac wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at Seisnigo Cymru."[4]
Arwyddluniau cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Moya Jones, "Multicultural Challenges to Modern Wales" yn The Politics of Ethnic Diversity in the British Isles, golygwyd gan Romain Garbaye a Pauline Schnapper (Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan, 2014), t. 137.
- ↑ "Cyfrifiad 2011: Hunaniaeth ac Ethnigrwydd", BBC (11 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
- ↑ "Hunaniaeth genedlaethol", Statiaith. Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.
- ↑ "Saeson" yn Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, t. 830.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Robert Pope (gol.), Religion and National Identity: Scotland and Wales c. 1700–2000 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001).