Harry Secombe
Gwedd
Harry Secombe | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1921 St. Thomas |
Bu farw | 11 Ebrill 2001 Guildford |
Label recordio | Philips Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Math o lais | tenor |
Plant | Andy Secombe |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor |
Difyrrwr (canwr a chomedïwr) o Abertawe oedd Syr Harold Donald Secombe (8 Medi 1921 - 11 Ebrill 2001). Cafodd ei fagu yn Abertawe, yng nghyffiniau'r dociau a gweithiodd fel clerc yn y gwaith dur, gan ganu yng nghôr yr eglwys. Tra'n filwr ym myddin Lloegr yng Ngogledd Affrica a'r Eidal, cafodd y cyfle i ddiddannu. Ar ôl y rhyfel bu'n gweithio yn y "Windmill Theatr", Llundain.
Roedd yn ddarlledwr radio a theledu amlwg iawn ac yn aelod o griw'r Goon Show drwy gydol y 1950'au.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cyfarfu Secombe ei ddarpar-wraig Myra Joan Atherton yn neuadd ddawns Pier Y Mwmbwls yn 1946. Roedd y ddau yn briod o 1948 hyd ei farwolaeth. Cawsant pedwar o blant:
- Jennifer Secombe, gweddw yr actor Alex Giannini. Hi oedd asiant ei thad yn y blynyddoedd diweddar.
- Andy Secombe, actor llais, ffilm ac awdur
- David Secombe, awdur a ffotograffydd
- Katy Secombe, actores
Bu farw ei weddw Myra ar 7 Chwefror 2018 yn 93 mlwydd oed.[1]
Caneuon
[golygu | golygu cod]- "On With The Motley" (1955)
- "If I Ruled The World" (1963)
- "This Is My Song" (1967)
Dyfyniadau
[golygu | golygu cod]- "I suffer fools gladly because I am one of them."
- "My voice is not so much 'bel canto' as 'can belto'."
- "Anyone who, for 25 years, has built a career on such tenuous foundations as a high-pitched giggle, a raspberry and a sprinkling of top 'Cs' needs all the friends he can get."
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Woman who married comedy legend Sir Harry Secombe after meeting him on Mumbles Pier has died (en) , WalesOnline, 21 Chwefror 2018.